Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi dadlau fod agenda o doriadau llymder Llywodraeth Prydain ymhlith y rhesymau dros y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Nicola Sturgeon wedi bod yn annerch cynulleidfa yn Sefydliad Ymchwil Economi Wleidyddol Sheffield heddiw i amlinellu polisi economaidd amgen gan alw ar y Canghellor i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Mae disgwyl y bydd y Canghellor Philip Hammond sy’n paratoi Datganiad yr Hydref ddiwedd y mis yn sgrapio cynlluniau ei ragflaenydd, George Osborne i ddisodli’r ddyled wladol, gan wario’n hytrach ar isadeiledd.

‘Niwed cymdeithasol’

Dywedodd Nicola Sturgeon: “Mae llymder a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus wedi achosi niwed cymdeithasol enfawr  a heb ddod ag unrhyw fudd economaidd – mae’r polisïau wedi methu yn gyfan gwbl.”

Mae’n dadlau fod llymder wedi bod yn ffactor yn y refferendwm: “Rydym yn gwybod fod pobl ar incwm isel yn fwy tebygol o bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, fel yr oedd yr ardaloedd gyda chyfradd isel o swyddi. Nid yw polisi economaidd Prydain wedi rhoi llygedyn obaith i ddigon o bobl.”

Yn ôl Nicola Sturgeon, “Mae angen i ni ddangos ein bod yn agored i fasnach rydd a hawl i bobl symud ar y cyfandir.   Mae pobl a chymunedau yn elwa ac mae’n creu cyfleoedd newydd i bawb.”