Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi datgan fod bwriad Llywodraeth Prydain i apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchelys yn gamgymeriad.

Llwyddodd ymgyrchwyr i ennill achos yn yr uchelys yn herio penderfyniad Theresa May i ddefnyddio rhyddfraint brenhinol i fwrw ymlaen gyda Brexit, sy’n golygu y bydd raid i’r Senedd gael sêl bendith.

Ond mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y byddan nhw’n apelio yn erbyn y ddyfarniad yn y Goruchaf Lys.

“Mae dyfarniad yr Uchelys yn eglur iawn fod Llywodraeth Prydain yn methu gweithredu Erthygl 50 trwy ddefnyddio’r uchelfraint brenhinol,” meddai Carwyn Jones. “Yn wir, mae hyn yn gyson gyda dadleuon a wnaed gan yr Ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd am sofraniaeth seneddol.”

Mae Carwyn Jones yn dadlau na ddylai Llywodraeth Prydain apelio yn erbyn y penderfyniad hwn, fel yr eglurodd, “Y mae’n gamgymeriad, i herio’r ddyfarniad ac fe ddylem symud ymlaen i ddeall yn well safbwynt Llywodraeth Prydain.”