Nicola Sturgeon yn annerch cynhadledd yr SNP yn Glasgow (llun: Jane Barlow/PA Wire)
Mae prif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi addo gweithio gyda phleidiau eraill er mwyn ceisio cadw Prydain gyfan i mewn ym marchnad sengl Ewrop.

Ond os bydd Prydain yn mynnu ‘Brexit caled’ fe fydd llywodraeth yr Alban yn galw ail refferendwm ar annibyniaeth, meddai.

Fe wnaeth hi gadarnhau hyn wrth annerch cynhadledd flynyddol yr SNP yn Glasgow y prynhawn yma.

“Byddwn yn cynnig pwerau newydd i helpu cadw’r Alban yn y farchnad sengl hyd yn oed os bydd y Deyrnas Unedig yn gadael,” meddai.

“Ond os bydd y llywodraeth Dorïaidd yn gwrthod yr ymdrechion hyn, os yw’n mynnu mynd â’r Alban ar lwybr sy’n niweidio’n heconomi, gostwng ein safonau byw a difrodi ein henw da fel gwlad agored, groesawgar ac amrywiol, rhaid i’r Alban gael y gallu i ddewis gwell dyfodol.

“Ac fe fyddaf i’n sicrhau y bydd yr Alban yn cael y dewis hwnnw.”

Yn wahanol i Gymru a Lloegr, fe wnaeth 62% o bobl yr Alban bleidleisio dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin.

Roedd Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud wrth y gynhadledd y bydd Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi bil drafft ymgynghorol ar refferendwm annibyniaeth yr wythnos nesaf.