Dylid cosbi unigolion sy’n bomio pobol gyffredin, ysbytai a cherbydau dyngarol yn Syria yn y Llys Troseddu Rhyngwladol, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams.

Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Holland ac Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry eisoes wedi galw am ymchwiliad i gyrchoedd bomio yn Syria.

Roedd Plaid Cymru’n gwrthwynebu cyrchoedd awyr gan Lywodraeth Prydain ar Syria ar sail y ffaith nad yw’n cydfynd ag unrhyw bolisi Gorllewinol.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’r dinasyddion diniwed sydd wedi eu lladd yn Syria yn ddioddefwyr trosedd rhyfel ac mae’n rhaid i’r rheiny sydd yn euog wynebu archwiliad.

“Mae’r achos yn erbyn Rwsia a Syria yn glir ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth gadarn.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth y DG ychwanegu ei phwysau i alwadau sydd eisoes wedi eu gwneud gan Ffrainc a’r Unol Daleithiau ar gyfer archwiliad ICC.”

Plaid yn erbyn y bomio

“Mi bleidleisodd Plaid Cymru yn erbyn bomio Syria,” meddai Hywel Williams wedyn. “Clywsom y byddai’r bomio yn cael ei reoli yn ofalus er mwyn osgoi achosi perygl i ddinasyddion ond mae’n glir erbyn hyn nad yw Rwsia na Syria yn ufuddhau i hynny.

“Yn wir, mae’n ymddangos eu bod yn targedu dinasyddion. Byddai cymryd nhw i’r Llys Troseddu Rhyngwladol yn gyson gyda pholisi’r Deyrnas Gyfunol felly.

“Mae’r sefyllfa yn annioddefol. Mae’r angen i weithredu yn fawr a dylai’r DG ddefnyddio ei phwer a’r dylanwad sydd ganddi yn y gymuned rynglwadol i’w dal i gyfrif.

“Mae yna gyfrifoldeb ar y Gorllewin i sicrhau bod dioddefwyr y rhyfel hwn yn derbyn cyfiawnder. Mae’r DG wedi anwybyddu troseddau tebyg yn y gorffennol a fedrwn ni ddim gadael iddo ddigwydd eto.”