Wrth i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones baratoi i annerch cynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, mae e wedi dweud mewn erthygl i’r Sunday Times fod rhaid i Lafur uno yn dilyn buddugoliaeth Jeremy Corbyn.

Daliodd Corbyn ei afael ar yr arweinyddiaeth brynhawn dydd Sadwrn, yn dilyn y cyhoeddiad ei fod e wedi ennill 61% o’r bleidlais yn dilyn her gan Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith.

Yn yr erthygl, dywed Carwyn Jones: “Bydd eraill yn anghytuno, ond rwy’n credu bod hon yn gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth yr oedd yn rhaid i ni ei chael.

“Roedd pethau wedi cyrraedd argyfwng ac roedd angen rhyddhad, ail-asesu a chyfle i symud ymlaen.

“Mae ail fuddugoliaeth Jeremy yn rhoi sicrwydd i ni gyd mewn cyfnod ansicr.

“Bellach, mae gan bob aelod Llafur gyfrifoldeb i ddangos ein hunain ar ein gorau i weddill y wlad.”

Ychwanegodd fod rhaid i’r “bwio, hisian, galw enwau, trolio, bygythiadau… ddod i ben”.

“Rhaid cydnabod nawr na all unrhyw frwydr syniadau fyth gael ei hennill, fod her a gwahaniaeth yn gallu cael ei ganolbwyntio ar fod yn blaid lwyddiannus ac unedig.”

Cymru a’r Alban

Dywedodd Carwyn Jones mai blaenoriaeth y Blaid Lafur bellach yw sicrhau y gall fod yn blaid sy’n llywodraethu, a bod hynny wedi ei chryfhau gan y pwerau ychwanegol sydd gan Gymru a’r Alban erbyn hyn.

“Mae realiti ennill grym yn golygu y gallwn ni gyflwyno gweledigaeth i’r genedl sy’n cynnwys 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran yng Nghymru a chynnig gofal plant fydd yn gwella bywydau teuluoedd ledled y wlad.

“Mae’n golygu y gallwn ni roi terfyn ar yr hawl i brynu; mae’n golygu y gallwn ni osod sgiliau digidol yn ein dosbarthiadau ac mae’n golygu y gallwn ni anwybyddu sioe fawr hyll ac anghyfiawn ail-gyflwyno ysgolion gramadeg.

“Mae’n golygu nad oes angen i ni boeni a ddylen ni ymuno â phiced y meddygon iau, oherwydd chawson ni mohonyn nhw yng Nghymru – doedd dim streic oherwydd fe wnaethon ni benderfyniadau gwahanol yn seiliedig ar werthoedd Llafur.”