Boris Johnson
Mewn tro annisgwyl y bore ma, mae Boris Johnson wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll fel ymgeisydd i olynu’r Prif Weinidog David Cameron.

Roedd cyn-Faer Llundain, a fu’n arwain yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn cael ei ystyried yn un o’r ceffylau blaen yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, ynghyd a’r Ysgrifennydd Tramor Theresa May.

Ond fe fu ergyd i’r ymdrech pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove, yn annisgwyl heddiw y byddai e’n sefyll fel ymgeisydd, gan ddweud nad oedd yn credu y gallai Boris Johnson “ddarparu’r arweiniad sydd ei angen.”

Yn ôl adroddiadau, penderfyniad y Gweinidog Cyfiawnder Michael Gove i sefyll wnaeth arwain at benderfyniad Johnson.

Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd Boris Johnson: “Ar ôl ymgynghori â chydweithwyr ac yng ngoleuni amgylchiadau’r Senedd, rwy wedi dod i’r casgliad nad fi yw’r person hwnnw [i arwain].”

 Ychwanegodd y byddai’n rhoi “pob cefnogaeth i’r weinyddiaeth Geidwadol nesaf” er mwyn sicrhau bod y blaid yn “gweithredu ar fandad” ac er mwyn “hybu’r agenda rwy’n credu ynddi”.

Mae ei benderfyniad yn gadael pump ymgeisydd yn y ras – Stephen Crabb, Liam Fox, Michael Gove, Andrea Leadsom a Theresa May.