Ty'r Cyffredin
Mae’r SNP yn galw am yr hawl i fod yn wrthblaid swyddogol San Steffan gan honni bod y Blaid Lafur yn “shambls sydd mewn argyfwng”.

Mae gan blaid genedlaethol yr Alban 54 Aelod Seneddol, ac fe fyddan nhw’n cyfeirio at reol seneddol sy’n dweud bod rhaid i blaid fod yn barod i lywodraethu os ydyn nhw am fod yn wrthblaid swyddogol.

Ond yn ôl arweinydd y blaid yn Nhŷ’r Cyffredin, Pete Wishart, mae’r ffaith fod Llafur wedi colli dau draean o’u cabinet cysgodol yn golygu nad ydyn nhw’n ateb y gofynion.

Dywedodd Wishart ar Twitter fod yr SNP yn “drefnus ac yn ddisgybledig wrth ‘gysgodi’ ym mhob adran a gweinidogaeth”.

Ychwanegodd fod gan yr SNP fwy o gefnogaeth ymhlith y pleidiau eraill nag sydd gan Lafur.

Mae disgwyl i Jeremy Corbyn gael ei herio gan ymgeiswyr eraill ar gyfer yr arweinyddiaeth ar ôl colli pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn o 172 i 40 nos Fawrth.

Ond mae Corbyn yn mynnu nad yw’n barod i ymddiswyddo gan fod ganddo fe gefnogaeth aelodau’r blaid ar lawr gwlad.