Sadiq Khan, ar ddiwrnod ei erhol yn faer Llundain ddechrau'r mis (llun: PA)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron a maer newydd Llundain, Sadiq Khan, wedi bod yn ymgyrchu gyda’i gilydd am bleidlais dros aros i mewn yn y refferendwm ar 23 Mehefin.

Wythnosau ar ôl ei gollfarnu’n ddidrugaredd yn ymgyrch yr etholiad, fe fu’r Prif Weinidog yn ysgwyd llaw â’r maer gan ei longyfarch fel ‘Mwslim a Phrydeiniwr balch’.

Dywedodd fod ei ymddangosiad gyda Sadiq Khan gerbron torf o fyfyrwyr yn Llundain yn arwydd o gytundeb ehangach ac draws y sbectrwm gwleidyddol.

“Mae wedi dod â chlymblaid rhyfeddol ynghyd – Llafur, Rhyddfrydol, Ceidwadol, Gwyrdd, busnes, undebau a mudiadau eraill – pawb gyda’i gilydd yn gwybod mai dyma’r amser iawn,” meddai.

Fe wfftiodd at awgrymiadau gan ymgyrchwyr Brexit fod rhyw fath o gynllwyn enfawr gan y sefydliad ar y waith.

“Byddai’n gynllwyn cywrain iawn i gallu cynnwys mab gyrrwr bws o Faer Llafur a mab stocbrocer o Prif Weinidog Torïaidd,” meddai.

“Mae Sadiq a minnau’n gwneud hyn am un rheswm: oherwydd ein bod ni’n caru’n gwlad, fod arnon ni eisiau i’n gwlad fod y gorau y gallwn.

“Yn y pen draw, nid dadl am Ewrop yw hon, ond dadl am Brydain.”

‘Er budd Llundain’

Dywedodd Sadiq Khan ei fod yn barod i weithio gyda’r Llywodaeth Dorïaidd “lle’r oedd hynny er budd pobl Llundain”.

“Mae’r achos economaidd dros aros i mewn yn gwbl amlwg,” meddai.

“Ond mae achos gwladgarol yn ogystal.

“Mae’r bleidlais hon yn ymwneud â gwerthoedd, a’n cymeriad a’r ffordd yr ydym yn gweld ein dinas a’n gwlad yn y dyfodol.

“Dyna pam mai Llundain yw dinas orau’r byd. Dydyn ni erioed wedi ynysu’n hunain, rydym yn agored ein meddwl, yn edrych tuag allan, yn cofleidio diwylliannau eraill ac yn dysgu gan ddiwylliannau a syniadau eraill yn ogystal.”

Ychwanegodd David Cameron:

“Fe fyddwn ni’n anghytuno ar lawer o bethau.

“Ond mae’r ddau ohonom o blaid Llundain, a’r ddau ohonom o blaid y Deyrnas Unedig. Mae arna’ i eisiau i’r teimlad o undod yn ein nod fod gyda ni heddiw.”