Boris Johnson (llun parth cyhoeddus)
Mae pleidleiswyr wedi cael hen ddigon ar elynion David Cameron yn defnyddio ymgyrch refferendwm yr Undeb Ewropeaidd i hyrwyddo Boris Johnson, yn ôl y cyn-weinidog Ceidwadol Ken Clarke.

Mae o’r farn fod gan lawer o ymgyrchwyr Brexit fwy o ddiddordeb mewn tanseilio’r Prif Weinidog nag mewn cael trafodaeth gall ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

“Does dim pwynt troi’r ymgyrch gadael i fod yn fath o ymgais arweinyddiaeth i Boris Johnson ac ofnau am fewnfudo,” meddai Ken Clarke.

“Mae’r cyhoedd wedi diflasu ar ryfeloedd cartref Torïaidd pan oedden nhw’n meddwl eu bod nhw’n cael eu holi ynghylch dyfodol y wlad yma i’w plant a’u hwyrion.

“Mae’n wir fod Boris yn fersiwn neisiach o Donald Trump ond mae’r ymgyrch yn hynod o debyg yn fy marn i, heb fod dim mwy perthnasol i’r problemau go iawn sy’n wynebu pobl.

“Dw i’n meddwl y dylai’r ddau ohonyn nhw fynd i ffwrdd am dipyn a mwynhau eu hunain a pheidio â sefyll yn ffordd y materion difrifol sy’n wynebu gwledydd yr 21ain ganrif.”

Diffyg hyder

Daw sylwadau Ken Clarke ar penwythnos o ffraeo chwerw o fewn y Blaid Geidwadol, gydag aelodau seneddol yn cyhuddo David Cameron o fod yn gelwyddgi, ac yn cynllwynio’n agored i’w ddisodli.

Dywedodd yr AS Nadine Dorries y bydd hi’n ddiwedd ar y Prif Weinidog hyd yn oed os bydd pleidlais o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin – a’i bod hi eisoes wedi cyflwyno llythyr yn galw am bleidlais o ddiffyg hyder.

Dywedodd AS arall, Andrew Bridgen, fod mwy na’r 50 sydd ei angen er mwyn sbarduno pleidlais o’r fath yn erbyn y Prif Weinidog.

Yn y cyfamser, mae David Cameron yn ceisio anwybyddu’r ffraeo mewnol o fewn ei blaid trwy ganolbwyntio ar effaith economiadd Brexit wrth rannu llwyfan â maer newydd Llundain, Sadiq Khan, heddiw.

Dywedodd y maer Llafur ei fod yn fodlon rhannu llwyfan â’r Prif Weinidog oherwydd bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd er budd Llundain.