(llun: PA)
Mae arolygon barn dros yr wythnos ddiwethaf wedi dangos bod y gefnogaeth i’r Undeb Ewropeaidd yn llawer cryfach yn yr Alban a Llundain nac yng ngweddill Prydain.

Mae’r arolwg diweddaraf yn yr Alban, gan ICM, ar fwriadau pleidleisio yn y refferendwm ar 23 Mehefin yn dangos 54% o blaid i Brydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd, 32% dros adael a 14% ddim yn gwybod.

Mewn arolwg gan Opinium yn Llundain hefyd, roedd 51% o blaid aros, 34% o blaid gadael a 15% ddim yn gwybod.

Yn arolwg diweddaraf YouGov yng Nghymru, fodd bynnag, y canlyniadau oedd 40% o blaid aros, a 39% o blaid gadael a 22% ddim yn gwybod.

Wrth edrych ar ganlyniadau’r arolygon ledled Prydain, mae ‘pôl y poliau’ y Press Association yn dangos 46% o blaid aros, 42% o blaid gadael a 12% ddim yn gwybod.

Er nad oes arolygon barn penodol i Loegr wedi bod, mae canlyniadau’r holl arolygon uchod yn awgrymu cefnogaeth gref dros bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn rhanbarthau y tu allan i Lundain. Ychydig iawn o arolygon sydd wedi bod yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ond mae pob tystiolaeth yno’n awgrymu y bydd pleidlais gref dros aros.