Gordon Brown
Mae cyn-Brif Weinidog gwledydd Prydain, Gordon Brown, wedi mynegi pryderon y gallai pleidlais o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd roi’r argraff anghywir i weddill y byd.

Fe fyddai buddugoliaeth i garfan ‘Brexit’, meddai, yn awgrymu na fedr Prydain gydweithio gyda’i chymdogion, ac fe fyddai’n amddifadu pobol ifanc o’r cyfel i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.

Fe anogodd mamau, yn arbennig, i bleidleisio tros aros yn yr Undeb – a hynny er mwyn dyfodol eu plant, cyn pledio’n uniongyrchol at dros naw miliwn o bleidleiswyr Llafur a phobol ifanc i droi allan i fotio yn refferedwm Mehefin 23.

“Os y penderfynwn ni, bobol Prydain, ein bod am gerdded i ffwrdd oddi wrth ein cymdogion agosaf, gwrthod cydweithio ar faterion economaidd a phethau eraill sy’n allweddol i’n dyfodol, amddifadu pobol ifanc ein gwlad rhag cael y cyfle i gynllunio ar gyfer y dyfodol… pa fath o neges y mae hynny’n ei roi i weddill y byd?” meddai Gordon Brown.

“Pa fath o fyd ydan ni’n ei greu ar gyfer y dyfodol, os na fedrwn ni gydweithio gyda’n cymdogion agosaf?”