Neil Hamilton
Mae aelod o staff UKIP, sy’n honni iddo gael ei ddiswyddo  gan Neil Hamilton, yn dilyn ei ethol fel arweinydd grŵp y blaid yn y Cynulliad, wedi dweud wrth golwg360 bod y cyn-Geidwadwr yn “unben”.

Dywedodd y ffynhonnell, sydd ddim am gael ei enwi am resymau cyfreithiol, fod chwe aelod o staff oedd yn gweithio i UKIP wedi cael eu diswyddo ar ôl i Neil Hamilton ddweud bod ymgyrch y blaid yn etholiadau’r Cynulliad wedi bod yn “drychinebus”.

“Daeth rhywun i’n gweld ni o dîm Neil, a dywedon nhw, ‘your services are no longer required’,” meddai’r ffynhonnell.

“Roedd pawb oedd yn gweithio i UKIP Cymru, roedden ni’n meddwl ein bod ni am fynd i’r Cynulliad i weithio fan ‘na ond roedd y new dictator, the reign of Hamilton, â chynlluniau newydd.”

Ddoe, fe wnaeth saith Aelod Cynulliad UKIP bleidleisio dros eu harweinydd newydd yn y Cynulliad, gyda Neil Hamilton yn herio arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill.

Yn dilyn hynny, daeth sôn bod rhai aelodau o staff wedi cael eu diswyddo, er fe ddywedodd y blaid yn Llundain wrth golwg360 mai “sïon heb eu cadarnhau” oedd hyn.

Yes men mae Neil eisiau’

“Doedd Neil ddim yn hapus ein bod ni’n defnyddio Nigel Farage wrth ymgyrchu, roedd e’n meddwl mai fe oedd y vote winner,” meddai’r ffynhonnell UKIP.

“Yn fy marn i, dydy e ddim am gael Faragists (cefnogwyr Farage) of the party i mewn ‘na – yes men mae Neil eisiau”.

“Yr unig disaster oedd rhoi fe (Hamilton) a phobol fel Gareth Bennett yn y Cynulliad,” meddai’r aelod o staff, sy’n aros yn driw i Nathan Gill, sy’n aros fel arweinydd y blaid yng Nghymru.

Ffurfio dwy blaid i UKIP?

Ychwanegodd fod hollt rhwng cefnogwyr Nathan Gill a’r rhai sydd yn nhîm Neil Hamilton, gan ddweud na fyddai’n “gwneud dim” â charfan Hamilton yn y Cynulliad.

Roedd yn credu bod dau grŵp yn y blaid bellach, UKIP yng Nghymru a UKIP yn y Cynulliad.

“Bydd rhaid i ni aros nawr i weld beth mae Neil yn gwneud yn y Cynulliad, fi isie gweld beth yw ei weledigaeth e, yr unig beth mae e’n siarad amdano yw’r Neil Hamilton Show.

“Cyn yr etholiad, roedd Nathan yn dweud ei fod e am edrych ar iechyd, addysg a’r economi, ond dyw e (Neil Hamilton) heb ddweud dim eto fel bydd yn arwain y blaid yn y Cynulliad.”

‘Troi cefn ar y blaid’

Mae ethol y cyn-AS Ceidwadol dadleuol yn arweinydd yn y Cynulliad wedi costio’n ddrud i’r blaid, meddai, gan ddweud bod aelodau yn troi cefn ar y blaid yn barod.

“Ry’n ni am (ganolbwyntio) ar refferendwm (Ewrop) yn gyntaf ac wedyn edrych ar sut byddwn ni’n cael ein plaid yn ôl gan Neil Hamilton.”

Stori: Mared Ifan