Syr John Chilcot
Fe fydd yr adroddiad hir-ddisgwyliedig i’r rhyfel yn Irac yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Mercher, 6 Gorffennaf, meddai llefarydd ar ran yr ymchwiliad heddiw.

Mae gwiriadau diogelwch yn yr adroddiad bellach wedi cael eu cwblhau.

Cafodd y dyddiad ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad ei gytuno gan bennaeth yr ymchwiliad Syr John Chilcot a David Cameron – ac fe ddaw 1,981 diwrnod wedi i’r ymchwiliad ddod i ben.

‘Penderfyniad dadleuol’

 

Dywedodd pennaeth yr ymchwiliad, Syr John Chilcot, ei fod yn falch o “gyflymdra” cwblhau’r adroddiad sydd â 2.6 miliwn o eiriau.

Er hyn, ym mis Tachwedd y llynedd dywedodd David Cameron wrth John Chilcot ei fod yn “siomedig” am ba mor hir roedd canfyddiadau’r adroddiad yn eu cymryd, ac fe bwysodd arno i “gyflymu’r” camau olaf.

Fis diwethaf, dywedodd David Davis ar ran y Ceidwadwyr fod bywydau “mwy na thebyg” wedi’u colli oherwydd yr oedi wedi i Brydain ymyrryd yn ddiweddar yn Libya, Syria ac Irac “heb wybodaeth ddigonol o’r penderfyniad dadleuol yn 2003 i fynd i ryfel.”

Mae rhai’n honni fod y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, wedi ceisio ymestyn y cyfnod cyhoeddi a cheisio atal cyhoeddi’r cyfathrebiadau rhyngddo ef ag Arlywydd yr UDA, George Bush – ond mae’n gwadu hynny.

Mae mwy na 150 o dystion wedi rhoi tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad, ac mae mwy na 150,000 o ddogfennau’r llywodraeth wedi’u hasesu ynghyd â deunydd eraill yn gysylltiedig â’r ymyrraeth.