George Osborne
Fe allai gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) olygu £36 biliwn yn llai o arian i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus, yn ôl dadansoddiad newydd gan y Trysorlys.

Wrth lansio’r adroddiad heddiw, dywedodd y Canghellor George Osborne, y byddai’n rhaid i deuluoedd Prydain dalu “pris economaidd trwm” petai’r wlad yn penderfynu gadael Ewrop ar Fehefin 23.

Er hyn, mae rhai o’r ymgyrchwyr dros adael Ewrop wedi beirniadu’r dadansoddiad gan ddweud ei fod yn “wallus” ac maen nhw wedi cwestiynu’r “ffigwr pendant” y mae’n ei gyflwyno.

Mae cwestiynau hefyd yn codi am y rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd i ddweud y byddai nifer yr ymfudwyr yn disgyn i 185,000 y flwyddyn o 2021 ymlaen – sy’n fwy o lawer na tharged y Llywodraeth o’i leihau gan rai “degau o filoedd.”

Ystyried y dewisiadau

 

Mae’r dadansoddiad yn archwilio tri dewis posib i’r DU o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r rheiny’n cynnwys statws tebyg i Norwy sy’n gwneud taliadau i’r UE ac yn derbyn y rhyddid symud er mwyn cael mynediad at y farchnad sengl, cytundeb masnachu rhydd fel sydd gan Ganada neu berthynas o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd.

Fe wnaeth y Canghellor ganolbwyntio ar fodel dwyochrog tebyg i Ganada, sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth Boris Johnson.

Ond, o ddilyn y model hwnnw, mae’r dadansoddiad yn amcangyfrif y byddai’r economi 6.2% yn llai erbyn 2030, sy’n hafal i £4,300 i bob cartref.

“O dan unrhyw ddewis, fe fydden ni’n masnachu llai, yn gwneud llai o fusnes ac yn derbyn llai o fuddsoddiad,” meddai George Osborne.

“A theuluoedd Prydain fyddai’n talu’r pris. Byddai cyflogai’n is a phrisiau’n uwch.”

‘Unochrog’

 

Er hyn, mae nifer o ymgyrchwyr tros adael Ewrop wedi wfftio’r dadansoddiad, gyda’r Gweinidog Andrea Leadsom yn dweud fod y ddogfen yn “anghyffredin o unochrog” am nad yw’n ystyried effaith mudo parhaus.

“Y ffordd decaf o gyflwyno’r ddadl hon fyddai i edrych hefyd ar effaith ar fudo pellach pe bydden ni’n parhau yn aelod, pwysau pellach ar wasanaethau cyhoeddus a’r effaith ar ddiogelwch ac yn y blaen,” meddai.

“Mae’n rhaid ichi gyflwyno golwg gytbwys.”