Honiadau bod Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi elwa o ddulliau osgoi trethi ei dad Ian
Mae David Cameron wedi mynnu nad oes ganddo unrhyw arian wedi’i gadw mewn llochesi trethi yn dilyn datgeliadau niweidiol am faterion ariannol.

Yn dilyn rhyddhau ‘Papurau Panama’, swmp helaeth o ddogfennau cwmni cyfreithiol Mossack Fonseca, fe ddaeth i’r amlwg bod Ian Cameron, tad Prif Weinidog Prydain, wedi defnyddio cyfrif tramor er mwyn osgoi talu trethi.

Un arall sydd dan y lach yw llywydd newydd y corff pêl-droed FIFA, Gianni Infantino, a hynny yn sgil cytundeb a gafodd ei arwyddo tra’i fod e yn ei gyn-swydd fel cyfarwyddwr gwasanaethau cyfreithiol UEFA.

Mynnodd Infantino ei fod wedi’i “siomi” ac na fyddai’n derbyn bod ei enw da yn cael ei gwestiynu yn sgil y dogfennau sydd wedi cael eu datgelu.

‘Dim cyfrifon’

Yn ôl y Guardian, fe lwyddodd Ian Cameron i redeg cronfa dramor er mwyn osgoi talu treth ym Mhrydain drwy gyflogi nifer o drigolion y Bahamas – gan gynnwys un esgob rhan-amser – i arwyddo’r gwaith papur.

Bu farw Ian Cameron yn 2010, ac fe etifeddodd ei fab rywfaint o’r cyfoeth yr oedd wedi’i gasglu.

Ond mae’r Prif Weinidog wedi gwadu fod ganddo unrhyw gyfrifon o’r fath, neu arian sydd wedi’i guddio mewn modd tebyg er mwyn osgoi treth.

Ni wnaeth sylw fodd bynnag pan gafodd ei holi a oedd ei deulu wedi elwa o gyfrifon o’r fath yn y gorffennol, neu’n debygol o wneud yn y dyfodol.

Mae Prif Weinidog Gwlad yr Iâ eisoes wedi ymddiswyddo’r wythnos hon wedi i ‘bapurau Panama’ ddatgelu rhai o’i drefniadau ariannol ef a’i wraig.

Cytundebau darlledu

Yn y cyfamser mae Gianni Infantino wedi mynnu nad yw wedi gwneud unrhyw beth o’i le wedi i’w enw yntau ymddangos yn rhai o’r dogfennau sydd wedi cael eu rhyddhau.

Yn ôl papur newydd y Suddeutsche Zeitung roedd llywydd FIFA wedi arwyddo cytundeb yn 2006 ar gyfer hawliau darlledu Cynghrair y Pencampwyr yn Ecuador gyda dau ddyn busnes, Hugo a Mariano Jinkis, yn ei swydd flaenorol gydag UEFA.

Ond yn ôl dogfennau Mossack Fonseca, fe gafodd yr hawliau eu gwerthu’n syth wedi hynny gan y ddau ŵr busnes am bron i dair gwaith y pris.

Fe wnaeth Infantino a UEFA ddatganiad nos Fawrth yn mynnu bod y corff sydd yn gyfrifol am bêl-droed Ewropeaidd eisoes “wedi datgelu’r holl ffeithiau yn ymwneud â’r cytundebau hyn mewn manylder”.