Mae Hefin Jones yn awgrymu bod Leighton Andrews yn newid ei ddulliau os ydi o eisiau ail ddêt gyda Phlaid Cymru ar ôl yr etholiad Cynulliad
Hefin Jones sy’n bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu.

Cassanova, Romeo, Leighton?

Ar drothwy perthynas, efallai na fyddai’n syniad galw’r darpar ddet yn ‘chêp’ cyn hyd yn oed archebu’r bwyd, Leighton.

Disgyblaeth filwrol

£50miliwn, salwtiodd George Osborne, fydd yn  cael ei wario i agor canghennau cadet mewn ysgolion er diben i’r plant gyffroi am ymuno â’r fyddin go iawn, a bydd hynny’n talu am gatrawdau mewn 500 o ysgolion erbyn 2020. Faint o fet y bydd yna un yng Nghaernarfon? Er, byddai angen i George fynnu mai o dan Amddiffyn y mae’r prosiect, neu fod Carwyn neu ei olynydd yn neidio’n frwd ar y syniad. Eto, bet dda.

Sêr yr Academi

Ac i Loegr, mae’r Canghellor yn datgan fod pob ysgol i fod yn academi erbyn 2022. Ond pam? O’r rhesymau anelwig a’r dystiolaeth amheus o’u gwerth gellir nodi un rhinwedd sy’n ateb y cwestiwn i’r dim. Mae cyflog cyfarwyddwr mwyaf llewyrchus yr academiau presennol mor uchel â £370,000.

Cuddio yn y dorf

I’r rhai oedd ddigon lwcus i glywed y gorau ar faterion cyfoes bu i Question Time ddangos nad yw Cymru mor unigryw i fedru llwyfannu llond ystafell o Saeson ar gyfer y rhaglen. Roedd Dundee, y lle mwyaf brwd dros annibynniaeth, yn ferw o Brydeindod a chondemnio’r SNP nas welwyd ei fath ers parti yn nhŷ Jeremy Clarkson.

Er, roedd un Albanes o leiaf yn y dorf o leiaf, aelod dibwys arferol o’r cyhoedd yn galw’n groch ar i’r SNP ymddiheuro am rywbeth neu gilydd. Bu i Kathy Wiles ffarwelio â’i hymgais seneddol dros Lafur ar ôl cymharu’r bobol ifanc mewn protest yn erbyn gogwydd y BBC i’r ‘Hitler Youth’.

Lifft drud

Mwy o ddoethineb yn y llysoedd, a thro hyn i Ddenmarc lle mae helpu ffoaduriaid yn anghyfreithlon. Unrhyw help. Mae Lisbeth Zornig newydd dderbyn dirwy o 45,000 krone (€6000, £4700) am y drosedd anfaddeuol o roi lifft yn ei char i deulu a gerddai yn cario eu plant. “Wyddwn i ddim ei fod yn anghyfreithlon,” oedd ei hamddiffyniad naïf ar ôl eu cludo o Ddenmarc i… Ddenmarc. Mae’n ymuno â 269 arall sydd wedi eu herlyn am droseddau cyffelyb.

Ydyn nhw am Iran-do?

Wedi goresgyn Affganistan o’i herwydd, yna Irac, yna Osama Bin Laden, ac er fod y dihirod i gyd o Saudi Arabia, mae’n ymddangos mai Iran oedd ar fai am 9/11. Mae llywodraeth yr Unol Daleithau, sydd o hyd yn nwylo Obama, nid Trump neu’r nytar arall, wedi ennill achos llys (yn America) i fynnu $10.5biliwn o ddirwy gan Iran am yr ymosodiadau.

Digwydd bod, George B. Daniels oedd yr un barnwr a benderfynodd ym Medi 2015 fod Saudi Arabia yn derbyn imiwnedd rhag erlyniad tebyg. Nid oes bwriad gan Iran dalu, sy’n gywilyddus ac ystyried synnwyr digamsyniol yr holl beth. Ond gan mai Mecsico fydd yn talu am wal anferth mewn rhyw flwyddyn ddwy efallai dylai Iran ddechrau chwilio’u pocedi.

Teulu dedwydd

Today is #CommonwealthDay – a day to celebrate the family of English-speaking nations who have fought together for freedom,” trydarodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Daniel Hannan, Ceidwadwr.

Pris gwerth ei dalu

Bosib mai cellwair mae Zlatan Ibrahimovic, er, does ond un Zlatan. Efallai na fydd yn chwarae pêl-droed i Paris St Germain flwyddyn nesaf, meddai, ond mi wnaiff aros os wnawn nhw adeiladu cerflun anferth ohono a’i osod yn lle’r Tŵr Eiffel.