Nicola Sturgeon yn barod i ymgyrchu o'r newydd dros annibyniaeth
Mae pôl piniwn newydd yn awgrymu bod y mwyafrif o Albanwyr yn barod i gefnogi annibyniaeth i’r wlad pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r newyddion wrth i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ddweud yng nghynhadledd wanwyn yr SNP ddydd Sadwrn ei bod hi’n barod i ymgyrchu o’r newydd am refferendwm annibyniaeth, yn dilyn canlyniad siomedig yn 2014.

Dywedodd mwy na hanner y bobol a atebodd y pôl gan ICM y bydden nhw’n cefnogi annibyniaeth pe bai’r Alban yn cael ei gorfodi yn erbyn ei dymuniadau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Sturgeon y byddai ail refferendwm yn gyfle i ennill cefnogaeth y rheiny oedd yn ansicr y tro diwethaf.

Er bod 52% o bobol o blaid ail refferendwm, dim ond 49% a ddywedodd y bydden nhw’n pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Mae’r pôl yn awgrymu bod 59% o Albanwyr o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.