Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Mae darpar-ymgeisydd i fod yn Faer Abertawe wedi rhoi gwybod i holl aelodau’r Cyngor – ar gam – ei fod yn bwriadu gohirio’i ymgeisyddiaeth.

Fis Mehefin y llynedd, cafodd David Phillips, cyn-arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, ddirwy o £200 am waredu coed tân yn y modd anghywir ar ôl cael ei erlyn gan ei gyn-gyflogwyr.

Dywedodd Phillips wrth grŵp Llafur y Cyngor ei fod yn teimlo nad yw’n briodol iddo sefyll fel ymgeisydd tra bod ei euogfarn yn anhreuliedig.

‘Gwasgu’r botwm anghywir’

Ond wrth e-bostio’r grŵp cyn y cyfarfod nos Fercher, mae’n dweud iddo wasgu’r botwm anghywir ar ei gyfrifiadur, gan anfon y neges at holl aelodau’r Cyngor, ac nid aelodau’r grŵp Llafur yn unig.

Dywedodd wrth bapur newydd y South Wales Evening Post ei fod yn “difaru’n fawr” ei fod wedi “gwasgu’r botwm anghywir yn anfwriadol”.

Yn ôl polisi’r Cyngor, fe fydd David Phillips yn dod yn ddirprwy faer ym mis Mai os yw’n cael ei dderbyn, ac yna’n faer yn awtomatig y flwyddyn nesaf oherwydd ei flynyddoedd o wasanaeth i’r awdurdod lleol.