Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud mai “ceisio cyllideb deg yn wyneb toriadau llym” yw’r her iddyn nhw ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Yn ôl Dyfed Edwards, fe fydd rhaid i Gyngor Gwynedd geisio am ffyrdd i ddelio â “thoriadau llym” ac “ariannu gwasanaethau hanfodol Gwynedd i’r dyfodol.”

Daw hyn yn sgil pryder am ddiffyg ariannol o £5m i Wynedd dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i gyllideb ddiweddaraf Llywodraeth San Steffan.

Yn eu cyfarfod nesaf, fe fydd disgwyl i’r Cabinet drafod strategaeth ariannol y sir gan osod y gyllideb ar gyfer 2016-2017 gan ystyried gwasanaethau Gwynedd.

Fe fydd disgwyl iddyn nhw ddod i benderfyniad terfynol erbyn Mawrth 3.

‘Her ariannol anferthol’

“Ein gobaith yw sicrhau cydbwysedd ariannol yn wyneb toriadau llym gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan a chodi arian trwy’r Dreth Cyngor er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol,” meddai Dyfed Edwards.

“Rydym yn benderfynol o barhau i warchod trigolion cymunedau Gwynedd er gwaetha’r her ariannol anferthol sy’n ein hwynebu.”

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus – Her Gwynedd – fe fydd y cynghorwyr yn ystyried ymatebion y cyhoedd dros yr wythnosau nesaf.

“Mae’r broses o drafod a holi barn trigolion a gweithlu Gwynedd wedi bod yn gynhwysfawr ac agored. Mae hi wedi bod yr ymarferiad casglu barn gyhoeddus fwyaf o’i bath yn y sir, ac wedi bod yn broses drwyadl sydd wedi’i werthfawrogi gan drigolion, cymdeithasau a sefydliadau Gwynedd,” ychwanegodd Dyfed Edwards.