Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi gwrthod cais gan arweinwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i beidio cynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin.

Mae Carwyn Jones, Nicola Sturgeon ac Arlene Foster wedi mynegi pryder y gallai cynnal y refferendwm yr un pryd ag etholiadau cenedlaethol yn y Senedd ym Mae Caerdydd, Holyrood a Stormont arwain at ddryswch ymhlith pleidleiswyr.

Roedden nhw wedi bod yn rhoi pwysau ar Cameron i ohirio’r refferendwm tan ddiwedd y flwyddyn.

Ond mae Cameron yn parhau i ystyried dyddiadau chwe wythnos ar ôl yr etholiadau, sy’n golygu y gallai’r refferendwm gael ei gynnal ar Fehefin 23 neu 30.

‘Angen eglurder’

Dywedodd yr arweinwyr yn y llythyr, oedd wedi’i gefnogi gan Martin McGuinness, fod “angen eglurder”.

“Ymhellach, fe fyddai bron iawn yn amhosib i’r pleidiau gwleidyddol yn ein tiriogaethau gynllunio’n effeithiol a chydweithio lle bo’n briodol ar yr ymgyrch refferendwm tra bod ein hetholiadau ein hunain ar y gweill.”

Ond yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, dywedodd David Cameron fod pleidleiswyr yn “ddigon galluog” i fynd i’r afael â dau etholiad ar yr un pryd.

Ychwanegodd y byddai’n “rhyfedd” ystyried peidio cynnal refferendwm ar ôl penderfynu ei gynnal yn y lle cyntaf.