Jeremy Corbyn
Fe fydd gan Aelodau Seneddol Llafur bleidlais rydd am y mater o gynnal cyrchoedd awyr ar gadarnleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria ai peidio.

Fe wnaeth y cabinet cysgodol gyfarfod heddiw yn San Steffan yn dilyn tensiynau o fewn y blaid gyda rhybuddion am ymddiswyddiadau pe byddai Jeremy Corbyn wedi gwrthod cyfaddawdu.

Mae’n debyg y bydd Jeremy Corbyn yn pwysleisio fod polisi swyddogol ei blaid yn gwrthwynebu ymyrraeth filwrol, ond ni fydd yn cyflwyno gorfodaeth ar yr Aelodau Seneddol i bleidleisio yn ei erbyn.

Mae’n bosibl y bydd pleidlais rydd ar ran y Blaid Lafur yn arwain at David Cameron i alw am bleidlais ar gyrchoedd awyr yn Syria mor gynnar â dydd Mercher.

Ond, mae’n debyg y bydd Jeremy Corbyn yn gwneud apêl ar y Prif Weinidog i oedi ei gais am bleidlais tra bo pryderon Aelodau Seneddol Llafur yn cael eu hateb.

‘Deuddydd llawn’

Mae Jeremy Corbyn wedi ysgrifennu at David Cameron yn galw arno i sicrhau y bydd y ddadl am y bwriad i gynnal cyrchoedd awyr yn Syria yn cael ei chynnal am “ddeuddydd llawn.”

Yn y llythyr, mae’n nodi “mae angen digon o amser am ddadl lawn yn y Tŷ, a dim ond dadl am ddeuddydd llawn fyddai’n sicrhau cyfle i’r holl aelodau sydd am gyfrannu allu gwneud hynny.”