Jeremy Corbyn
Mae disgwyl i arweinydd Llafur Jeremy Corbyn gyhoeddi heddiw a fydd yn gorchymyn bod ei blaid yn gwrthod ymestyn cyrchoedd awyr gan Brydain yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.

Mae Corbyn wedi gwrthod ildio i bwysau i ganiatáu pleidlais rydd ar y mater gan ddadlau bod yn rhaid i Aelodau Seneddol wrando ar “lais” aelodau’r blaid.

Dywedodd yr arweinydd yn ystod cyfweliad ar raglen Andrew Marr y BBC mai ef ei hun fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â’r bleidlais.

Mae tensiynau wedi bod yn dwysau o fewn cabinet cysgodol ei blaid gyda rhybuddion am ymddiswyddiadau os yw’r arweinydd yn gwrthod cyfaddawdu.

Mae pennaeth undeb Unite, Len McCluskey wedi ymuno yn y ffrae gan gyhuddo gwrthwynebwyr Corbyn o ddefnyddio Syria fel esgus i geisio cael gwared a’r arweinydd.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud na fydd yn cynnal pleidlais ar y mater yn y Senedd nes bod ganddo ddigon o gefnogaeth. Dywedodd yr ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon ei fod wedi bod yn briffio ASau Llafur ynglŷn â’r gweithredu milwrol dros y penwythnos ac mae wedi pwysleisio nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif yn cefnogi’r ymgyrchoedd awyr “hyd yn hyn.”