Bydd Datganiad yr Hydref yn gyfle i’r Canghellor  George Osborne bwysleisio bod Llywodraeth Prydain am sicrhau ei fod yn newid ‘cenhedlaeth sy’n rhentu i genhedlaeth sy’n prynu’.

Mae disgwyl iddo wneud hynny drwy gyflwyno’r rhaglen tai fforddiadwy fwyaf ers 30 o flynyddoedd.

Fe fydd hefyd yn cyflwyno cynlluniau i sicrhau 400,000 o dai newydd yn Lloegr.

Mae disgwyl iddo ddweud: “Yn y pen draw, mae adolygiadau gwariant fel hyn yn dibynnu ar ddewisiadau ynghylch yr hyn yw eich blaenoriaethau. Ac rwy’n sicr: yn yr Adolygiad Gwariant hwn, rydym yn dewis tai. Yn anad dim, rydym yn dewis cartrefi y gall pobol eu prynu.”

‘Argyfwng’

Fe fydd yn pwysleisio bod “argyfwng” o ran prynu tai yng ngwledydd Prydain.

“Fe ddechreuon ni yn y senedd flaenorol, a gyda chynlluniau megis Cymorth i Brynu, roedd nifer y prynwyr tro cyntaf wedi cynyddu o 60%.

“Ond yn syml, mae’n rhaid i ni wneud mwy. Heddiw rydym yn amlinellu ein cynllun dewr i gefnogi teuluoedd sy’n anelu i brynu eu cartrefi eu hunain.”

Fe fydd cynlluniau’n cael eu cyhoeddi i sicrhau tir ar gyfer 200,000 o dai ychwanegol, gan roi gostyngiad o 20% i brynwyr tro cyntaf o dan 40 oed.

Y pris uchaf ar gyfer y tai fydd £250,000 – neu £450,000 yng nghyffiniau Llundain.

Bydd cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a’r sector preifat yn derbyn £4 biliwn i sicrhau 135,000 o dai drwy gynllun Cymorth i Brynu erbyn 2021.

Bydd y tai ar gael i deuluoedd sy’n ennill llai na £80,000 – neu £90,000 yng nghyffiniau Llundain.

Bydd cynnydd hefyd yn nifer y tai sydd ar gael i’w rhentu’n rhad, a chartrefi ychwanegol i bobol ag anableddau.