Mae swyddogion a chomisiynwyr yr heddlu wedi rhybuddio y byddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol os bydd y Llywodraeth yn parhau â’u cynllun i dorri cyllideb heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae saith o Swyddogion Heddlu a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol, Mike Penning, yn galw arno i oedi’r broses.

Mae Mike Penning yn anelu at gyhoeddi cynllun gwariant a chyllid yr heddlu erbyn diwedd mis Tachwedd.

Yn y llythyr, maen nhw’n nodi fod y newidiadau “yn annheg, yn anghyfiawn, ac â diffygion mawr,” yn ôl papur newydd yr Independent.

Mae’r Swyddogion Heddlu yn ofni y gallai’r toriadau wanhau diogelwch gwasanaeth yr heddlu.

Am hynny, maen nhw’n rhybuddio y byddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol os na fydd y Llywodraeth yn ystyried eu pryderon.

Toriadau i’r gyllideb

Mae’r llythyr yn nodi: “Rydym yn credu y dylid dod â’r broses i’w therfyn ar unwaith.”

Mae’n nodi fod angen amser i wneud “asesiad teg a chyfiawn o’r canlyniadau.”

Fe gyhoeddodd Mike Penning ym mis Gorffennaf fod angen gwneud newidiadau i fformiwla bresennol cyllideb yr heddlu am ei fod “yn gymhleth, yn anhryloyw ac wedi dyddio.”

“Os ydyn ni am i wasanaeth yr heddlu fod y gorau y gall yn y wlad hon, mae’n rhaid inni wneud diwygiadau pellach, sy’n cynnwys rhoi seiliau hir dymor a chynaliadwy i gyllid yr heddlu,” ychwanegodd y Gweinidog.

Daw hyn yn sgil galwad y Canghellor George Osborne i adrannau fel y Swyddfa Gartref gyflwyno toriadau rhwng 25% a 40% i’w cyllidebau erbyn 2019/20.

Fe fydd Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi ar 25 Tachwedd, gan amlygu cynlluniau’r Llywodraeth am y pedair blynedd nesaf.

Mae’r llythyr wedi’i arwyddo gan y Dirprwy Faer dros Heddlua a Throseddau, Stephen Greenhalgh, ynghyd â swyddogion a chomisiynwyr o Cumbria, Sir Gaerhirfryn, Dyfnaint a Chernyw, Glannau Mersi, Swydd Gaerefrog a Thafwys.