David Davis yn gwrthwynebu (Robert Sharp CCA 2.0)
Mae’r heddlu wedi gofyn i’r Llywodraeth am bwerau newydd eang i gadw llygad ar y We, gan ofyn am yr hawl i gael gwybodaeth am arferion ‘pori’ pawb.

Yn ôl papur newydd The Times mae uwch-swyddogion eisiau i gwmnïau rhyngrwyd gadw data am y gwefannau y mae eu cwsmeriaid yn ymweld â nhw am 12 mis, gan fod mwy a mwy o weithgarwch bellach yn digwydd ar y We.

Byddai hynny’n atgyfodi pwerau oedd wedi cael eu hawgrymu gan y llywodraeth glymblaid yn y senedd ddiwethaf cyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol atal y cynlluniau – mae rheoliadau newydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Ond mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol David Davis yn un o’r rheiny sydd wedi gwrthwynebu’r cais diweddaraf, gan ddweud nad oes gan yr heddlu gyfiawnhad dros ofyn am y fath bwerau.

‘Pwy, ble, pryd, beth’

Dywedodd llefarydd Cyngor y Penaethiaid Heddlu Cenedlaethol ar gyfathrebu data, Richard Berry, mai’r cyfan yr oedd yr heddlu’n gofyn amdano oedd yr un math o wybodaeth oedd ar gael iddyn nhw ynglŷn â ffonau.

“Yn y bôn mae angen i ni gael ‘pwy, ble, pryd a beth’ unrhyw gyfathrebiad – pwy ddechreuodd e, ble roedden nhw a phryd ddigwyddodd e,” meddai Richard Berry.

Mynnodd y byddai’n rhaid i swyddogion gael gwarant gyfreithiol cyn gallu gweld beth yn union yr oedd pobol wedi bod yn chwilio amdano ar y We, neu negeseuon personol ar gyfryngau cymdeithasol.

Gwrthwynebiad

Cafodd pwerau tebyg eu cynnwys yn y Bil Data Cyfathrebu fyddai wedi gorfodi cwmnïau i gadw data ffôn, e-byst a chofnodion o weithgaredd rhyngrwyd, defnydd cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol cwsmeriaid.

Yn 2013 fe gafodd y ddeddfwriaeth ei hatal gan y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd yn pryderu am breifatrwydd unigolion, ond fe allai’r Bil Pwerau Ymchwiliadol newydd weld rhai o’r cynigion yn cael eu hailgyflwyno.

“Mae’n syfrdanol eu bod nhw [yr heddlu] yn gofyn am hyn eto,” meddai David Davis wrth The Times. “Maen nhw’n ymestyn yn rhy bell a does dim tystiolaeth pam fod angen cadw’r fath ddata am flwyddyn.”