Mae Prif Weinidog Prydain wedi ysgrifennu at bennaeth yr ymchwiliad i ryfel Irac i ddweud ei fod yn siomedig na fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi tan haf y flwyddyn nesa’.
Mae David Cameron wedi mynd yn bellach hefyd, trwy alw ar Syr John Chilcot i hwyluso’r camau olaf.
Fe gyhoeddodd Syr John Chilcot heddiw y byddai’r adroddiad dwy filiwn o eiriau yn cael ei gyhoeddi erbyn mis Mehefin neu fis Gorffennaf 2016.
Ond mewn llythyr at Syr John Chilcot, fe ddywedodd y Prif Weinidogy bod teuluoedd y milwyr a wasanaethodd yn Irac yn rhannu’r siomedigaeth am yr amserlen.
“Dw i’n cydnabod fod gennych dasg aruthrol, ond byddwn yn croesawu unrhyw gamau i hwyluso camau diwethaf yr ymchwiliad,” meddai David Cameron.