Pont Hafren
Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi galw am ddiddymu’r tâl i groesi pontydd Hafren i Gymru.

Ar hyn o bryd, £6.50 yw’r gost i geir, £13.10 i faniau a £19.60 i gerbydau nwyddau trymion.

Yn ystod ymweliad â’r de, dywedodd Farage y dylid diddymu’r gost pan fydd y pontydd yn mynd i berchnogaeth y cyhoedd yn 2018.

Dywedodd: “Mae’r costau’n gywilyddus a drud.

“Mae’n gyfystyr â Chymru’n rhoi arwydd anferth ar yr M4 yn dweud ‘ry’n ni ar gau am fasnach’.

“Erbyn 2018, bydd cost y bont [newydd] hon wedi cael ei thalu. Felly’r peth iawn i’w wneud yw diddymu’r tollau’n gyfan gwbl.

“Dw i ddim yn hoffi tollau ar ffyrdd a dw i’n meddwl hefyd fod y cyhoedd yn teimlo’n gryf iawn, iawn yn eu herbyn nhw.”

‘Hwb i’r economi’

Mae Farage yn honni y byddai diddymu’r tollau’n rhoi hwb o £107 miliwn y flwyddyn i’r economi.

Ychwanegodd y byddai unrhyw golledion yn gallu cael eu hawlio’n ôl drwy fabwysiadu cynllun rhatach ar gyfer ffordd osgoi yn ardal Casnewydd.

Roedd diddymu’r tollau ar gyfer Pontydd Hafren yn un o bolisïau UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer yr etholiad cyffredinol eleni.

Ar hyn o bryd, mae’r pontydd yng ngofal Llywodraeth Prydain er bod Llywodraeth Lafur Cymru’n galw am ddatganoli’r pwerau.

‘Polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhuddo Nigel Farage o fanteisio ar bolisi yr oedden nhw eu hunain wedi’i gyflwyno yn 2014, ac a gafodd ei gynnwys yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol eleni.

Dywedodd llefarydd cyllid y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black: “Dw i’n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd UKIP yn rhoi’r gorau i felltithio mewnfudwyr a dechrau dathlu’r cyfraniad maen nhw’n ei wneud i’n cenedl.

“Dydy symiau UKIP ddim hyd yn oed yn adio i fyny. Mae’r ffaith fod Nigel Farage yn credu bod modd talu am waith cynnal a chadw parhaus y pontydd drwy leihau cost unigol ffordd osgoi’r M4 yn ei wneud yn ariannol analluog.”