Ni ddylid gofyn cwestiwn sy’n arwain at ateb ‘Ie’ neu ‘Na’ yn ystod y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.

Gallai ateb ‘Ie’ neu ‘Na’ arwain at ailadrodd yr amheuon ynghylch rhagfarn a gododd adeg refferendwm annibyniaeth yr Alban, meddai’r Comisiwn.

Yn hytrach na gofyn ‘A ddylai’r Deyrnas Unedig barhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd?’, mae’r Comisiwn yn awgrymu’r cwestiwn ‘A ddylai’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?’.

Byddai gofyn i bleidleiswyr ddewis rhwng yr atebion ‘Aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd’ neu ‘Gadael yr Undeb Ewropeaidd’.

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi galw ar Lywodraeth Prydain a’r holl Aelodau Seneddol i newid y cwestiwn pan fydd y Bil yn cael ei ystyried unwaith eto ar Fedi 7.

‘Eglur’

Dywedodd cadeirydd y Comisiwn Etholiadol, Jenny Watson: “Rhaid i unrhyw gwestiwn ynghylch y refferendwm fod mor eglur â phosib fel bod pleidleiswyr yn deall y dewis pwysig y mae gofyn iddyn nhw ei wneud.

“Rydyn ni wedi profi’r cwestiwn arfaethedig ymhlith pleidleiswyr ac wedi derbyn adborth gan ddarpar ymgyrchwyr, academyddion ac arbenigwyr ar iaith blaen.

“Tra bod pleidleiswyr yn deall y cwestiwn yn y Bil, mae rhai ymgyrchwyr ac aelodau’r cyhoedd yn teimlo nad yw’r geiriau’n gytbwys ac roedd ymdeimlad o ragfarn. Mae’r cwestiwn amgen rydyn ni wedi’i argymell yn mynd i’r afael â hyn.

“Mater i’r Senedd nawr yw trafod ein cyngor a phenderfynu pa eiriau ar gyfer y cwestiwn y dylid eu defnyddio.”