Mae David Cameron wedi gwrthod awgrymiadau y gallai’r llywodraeth ail-edrych ar gynigion pellgyrhaeddol i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi.

Dywedodd Stryd Downing fodd bynnag y byddai’r Prif Weinidog yn “agored” i drafod gosod terfynau ar ba mor hir oedd pobol yn gallu treulio yn y swydd.

Ond dyw’r llywodraeth ddim yn debygol o fod eisiau gwneud diwygiadau sylweddol i’r ail siambr, er gwaethaf beirniadaethau ynglŷn â’r rheiny gafodd eu hapwyntio’n Arglwyddi’r wythnos hon.

Cafodd 26 Ceidwadwr, 11 Democrat Rhyddfrydol ac wyth aelod o’r Blaid Lafur eu gwneud yn Arglwyddi gan y prif weinidog, gan gynnwys sawl cyn-aelod o’r llywodraeth.

‘Costio £1.2m’

Cafodd ymdrechion eu gwneud o dan y llywodraeth glymblaid ddiwethaf yn 2012 i gwtogi maint Tŷ’r Arglwyddi a rhoi terfyn o 15 mlynedd ar eu cyfnodau yn y swydd, ond fe gafodd hynny ei atal gan Geidwadwyr meinciau cefn.

Does gan David Cameron ddim bwriad ailedrych ar y cynlluniau hynny, gan ddweud yn hytrach ei fod yn awyddus i sicrhau fod cydbwysedd yr aelodau yn Nhŷ’r Arglwyddi yn fwy tebyg i’r Tŷ Cyffredin.

Mynnodd ffynhonnell o Stryd Downing fod y prif weinidog yn fodlon cynnal “trafodaethau rhwng y pleidiau i gyd” i weld pa newidiadau oedd yn bosib, ond y byddai’n rhaid i’r broses hwnnw ddechrau gyda’r Arglwyddi eu hunain.

Yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol fe fydd yr arglwyddi newydd, sydd yn cynyddu’r nifer y siambr o dros 820, yn costio £1.2m y flwyddyn yn ychwanegol i drethdalwyr.

Hain a Murphy

Ymysg y Ceidwadwyr sydd wedi cael eu gwneud yn arglwyddi mae’r cyn-weinidogion Cabinet William Hague ac Andrew Lansley, a Douglas Hogg, yr AS gafodd ei ddilorni am hawlio arian i lanhau ffos yn ei gartref yn ystod sgandal y treuliau.

Mae’r rhestr hefyd yn cynnwys y cyn-weinidogion George Young, David Willetts a Greg Barker yn ogystal â nifer o aelodau staff ASau’r Ceidwadwyr.

Ymysg y Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn ymuno â’r Siambr mae Syr Ming Campbell, Lynne Featherstone, Andrew Stunnell a Don Foster, ac mae Danny Alexander a Vince Cable wedi cael eu gwneud yn farchogion.

Roedd yr enwebiadau Llafur yn cynnwys cyn-ysgrifenyddion Cymru Peter Hain a Paul Murphy, yn ogystal â David Blunkett a Tessa Jowell.