IDS - faint oedd e'n ei wybod?
Fe gafodd yr Adran Waith a Phensiynau ei gorfodi i ail-wneud taflen ar ôl cyfadde’u bod wedi dyfeisio sylwadau canmoliaethus gan ddau berson dychmygol.
Maen nhw wedi cyfadde’ hefyd mai lluniau stoc oedd y rhai’n dangos ‘Sarah’ a ‘Zac’ yn y daflen.
Bellach, mae’r Blaid Lafur yn pwyso ar y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, i ddweud faint yr oedd e’n ei wybod am yr helynt.
‘Sarah’ wrth ei bodd
Cylchgrawn Welfare Weekly oedd wedi datgelu’r twyll gyda’r dyfyniadau a’r lluniau gwneud a oedd yn taclo rhai o’r amheuon penna’ sydd wedi eu codi am drefn newydd y Llywodraeth i atal budd-daliadau.
Yn ôl y daflen, roedd y cymeriad ‘Sarah’ wrth ei bodd ei bod wedi cael ei gorfodi i lunio CV neu golli ei budd-daliadau.
Ac roedd ‘Zac’ yn dweud nad oedd wedi cael ei gosbi am golli cyfarfod ynglŷn â gwaith, oherwydd fod ganddo reswm da.
Fe ddywedodd yr Adran Waith a Phensiynau fod y dyfyniadau wedi eu seilio “ar sgyrsiau” yr oedd eu staff wedi eu cael gyda chleientiaid.
‘Twyll’
“Yr unig ffordd y gall (Iain Duncan Smith) gael pobol i gefnogi ei drefn gosbi yw trwy eu dyfeisio nhw,” meddai’r llefarydd Llafur, Stephen Timms.
“Yn lle creu dyfyniadau i esgus bod y system yn gweithio, fe ddylai wneud mwy i warchod pobol fregus rhag cosbau budd-daliadau annheg.”
Ac yn ôl Andy Burnham, yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, roedd rhaid i Iain Duncan Smith ddweud yn onest faint yr oedd yn ei wybod am y twyll.