Angela Burns AC
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud fod yn rhaid i Llywodraeth Cymru fyfyrio ar y canlyniadau Lefel A – yn enwedig y bwlch perfformiad rhwng rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Er iddi longyfarch myfyrwyr ac athrawon ledled Cymru, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Addysg, Anglea Burns AC, ei bod yn ofni bod gostyngiad yn y gyfradd lwyddo cyffredinol yn dangos fod y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn cael eu gadael i lawr.

Llwyddodd 97.3% o fyfyrwyr Cymru i gael graddau A*-E – 0.2% yn llai na’r lynedd. O’i gymharu, llwyddodd 98.1% o fyfyrwyr Lloegr i basio yn ogystal a 98.2% o fyfyrwyr Gogledd Iwerddon. Nid yw myfyrwyr yn yr Alban yn sefyll arholiadau Lefel A.

Yr un yw’r stori gyda graddau A* ac A hefyd gyda 23.1% o fyfyrwyr Cymru yn llwyddo i gael y graddau uchaf o’i gymharu a 25.9% o fyfyrwyr yn Lloegr a 29.3% o fyfyrwyr Gogledd Iwerddon.

Meddai Angela Burns AC: “Fel y rhai sy’n rheoli’r system addysg yng Nghymru, yr hyn y mae’n rhaid i weinidogion Llafur ei wneud yw myfyrio ar y canlyniadau hyn, ac yn arbennig y bwlch perfformiad cyson â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

“Rydym yn llusgo y tu ôl i’r gweddill ac mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen yn rhy hir.

“Mae’n hollol amlwg fod angen cynnydd effeithiol ar fyrder ac rwy’n annog gweinidogion Llafur i ddarparu sicrwydd ar gyfer y dyfodol.”