Huw Prys Jones yn trafod y ffrae o fewn y Blaid ynghylch dyfodol Dafydd Elis-Thomas

Beth yn hollol sy’n digwydd o fewn Plaid Cymru’r dyddiau yma?

A hithau o fewn misoedd i etholiad y Cynulliad, mi fyddai rhywun yn digwyl bod ganddi ddigon ar ei phlât heb ymgolli mewn anghydfod mewnol ynghylch dyfodol un o’i ffigurau amlycaf.

Mae’n amlwg bellach fod Pwyllgor Gwaith canolog y Blaid yn benderfynol o ddiarddel Dafydd Elis-Thomas, ac mai diben y cyfarfod ym Mhorthmadog nos Fawrth yw ceisio cefnogaeth aelodau lleol i hyn.

Mae’n amlwg hefyd fod swyddogion yr etholaeth yn anhapus ynglŷn a’r broses, ond bod y Blaid yn ganolog yn mynnu eu bod yn galw cyfarfod llawn o holl aelodau’r etholaeth.

Beth bynnag ydi barn rhywun am rai o ddatganiadau Dafydd Elis-Thomas – a’i agwedd gyffredinol – hawdd gweld y potensial am anghydfod chwerw yn y ffordd ryfedd y mae’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Deallaf mai gobaith rhai o swyddogion Plaid Cymru fyddai perswadio cyn Aelod Seneddol yr etholaeth, Elfyn Llwyd, i gymryd lle Dafydd Elis-Thomas fel ymgeisydd. Mae’n ddealladwy y byddai’n rhaid iddyn nhw gael hyd i rywun ar frys mewn sefyllfa o’r fath, ond mae unrhyw awgrymiadau o ‘fficsio’ gwleidyddol yn sicr o ddyfnhau rhwygiadau o fewn y Blaid.

Sut felly y daeth hi i hyn?

Testun syndod, os nad anghredinedd, i’r cyhoedd yn gyffredinol fyddai gweld plaid yn diarddel cyn-arweinydd ac un o’i gwleidyddion mwyaf adnabyddus, yn enwedig â hwnnw’n dal i fod yn uchel ei barch y tu allan i’w blaid.

Yr un math o anghredinedd yn wir ag a fynegwyd pan gafodd aelodau’r gogledd eu rhwystro gan y Blaid yn ganolog rhag rhoi cyfle teg i Dafydd Wigley ennill sedd yn y Cynulliad yn 2007.

Yn sicr, byddai cwestiynau i’w holi, fel yr oedd bryd hynny, am grebwyll gwleidyddol y rheini a oedd yn gyfrifol.

Fy nealltwriaeth i o’r sefyllfa y tro hwn, fodd bynnag, ydi bod yna bobl o fewn Plaid Cymru sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn gyda Dafydd Elis-Thomas erbyn hyn i’r fath raddau eu bod yn benderfynol o gael gwared arno a/neu ddial doed a ddelo.

Waeth pa mor ddealladwy y gallai agweddau o’r fath fod, go brin fod hyn yn ffordd o redeg plaid wleidyddol greadadwy.

Dw i ddim yn meddwl y byddai neb yn cyfiawnhau holl ddatganiadau Dafydd Elis-Thomas na’i ddoethineb bob amser wrth eu dweud. Ar y llaw arall, mae dirfawr angen yn y Cynulliad am fwy o bobl annibynnol eu barn sydd â rhywfaint o wreiddioldeb yn perthyn iddyn nhw.

O leiaf all neb gyhuddo Dafydd Elis-Thomas o fod yn un o’r gwleidyddion boring hynny sy’n glynu’n ddigwestiwn at safbwynt eu plaid neu’n ymgreinio’n barhaus i’w harweinydd.

Ac wrth edrych ar y darlun ehangach, mae’n werth cofio hefyd mai fo oedd yr Aelod Cynulliad a siaradodd fwyaf o Gymraeg yn y siambr. Neu efallai nad ydi rhywbeth fel hyn yn cyfrif i blaid sy’n ymddangos mor paranoid ar adegau o fod â delwedd rhy Gymraeg?

‘Niweidiol i les y Blaid’

Dywed y Pwyllgor Gwaith fod Dafydd Elis-Thomas yn gwneud datganiadau ‘sy’n niweidiol i les y Blaid’. Mae’n siŵr gen i fod ei ddatganiadau’n sathru llawer o gyrn ei gyd-aelodau – ond niweidio lles y Blaid? Go brin.

A oes yna bobl rhy groendenau a hunanbwysig o fewn Plaid Cymru tybed? Ac os ydi o’n eu cythruddo, beth sy’n eu rhwystro rhag ei ddilorni ar goedd p’run bynnag?

Y ffaith amdani ydi nad oes dim byd y bydd unrhyw un o wleidyddion nac aelodau Plaid Cymru yn ei wneud na’i ddweud dros y misoedd nesaf am wneud gwahaniaeth mawr i ganlyniad etholiad nesaf y Cynulliad.

Mi allwn ni fod yn bron yn sicr mai aros yn eu hunfan fwy neu lai y bydd Plaid Cymru yn yr etholiad. Mi fyddai angen cynnydd cwbl syfrdanol i ennill mwy na 12 o seddau ar y mwyaf, a byddai angen chwalfa ddifrifol iddi ddisgyn o dan 10 sedd.

Nid oes dim yn ei chyhoeddiadau polisi hyd yma yn awgrymu bod ganddi’r fath o weledigaeth a fydd yn cydio yn nychymyg y cyhoedd dros y misoedd nesaf.

Mae’r Torïaid ymhell ar y blaen o ran chwalu record Llafur ar y Gwasanaeth Iechyd, er i Blaid Cymru gael llwyddiant mawr ar ymladd ymgyrchoedd lleol i achub ysbytai bach wyth mlynedd yn ôl.

Ac roedd ei datganiad diweddar o blaid cadw at y 22 o siroedd presennol yng Nghymru yn gwbl anesboniadwy, pan mae pawb yn gwybod mai camgymeriad trychinebus oedd y drefn a gyflwynwyd yn 1996.

Paratoi at lywodraeth

Eto i gyd, dydi pethau ddim yn ddu i gyd o bellffordd i’r Blaid. Mae’n debygol iawn y bydd Leanne Wood yn ddirprwy Brif Weinidog yr adeg yma y flwyddyn nesaf.

Mae Llafur yn sicr o golli tir, a gyda chwymp y Democratiaid Rhyddfrydol, fydd ganddi neb ond Plaid Cymru i droi atynt.

Onid y peth call a synhwyrol felly fyddai i Blaid Cymru ganolbwyntio’i holl sylw ar y consesiynau y dylai eu mynnu yn y trafodaethau efo’r Blaid Lafur y flwyddyn nesaf?

Dw i ddim yn adnabod neb o fewn Plaid Cymru sy’n credu mai nhw fydd yn arwain Llywodraeth Cymru’r flwyddyn nesaf. Ond fe all gael dylanwad sylweddol yn y ffordd y gall fynnu pris uchel gan Carwyn Jones am ei chydweithrediad.

Holi barn ei haelodau ar yr hyn yr hoffent weld Plaid Cymru yn ei fynnu gan Carwyn Jones y flwyddyn nesaf y dylai cadeirydd a phrif weithredwr y Blaid ei wneud nos Fawrth.

Byddai’n hynny’n sicr o fod yn well defnydd o’u hamser na gorfod ceisio ffordd allan o’r twll sydd wedi cael ei greu gan Bwyllgor Gwaith canolog y Blaid.