Hela gyda chwn
Mae sawl enw adnabyddus wedi galw ar Aelodau Seneddol i gadw’r gwaharddiad ar hela fel y mae, cyn i bleidlais gael ei chynnal yn y Senedd ddydd Mercher.

Mae’r comediwr Ricky Gervais, Morrissey, Sadie Frost a Stella McCartney ymhlith ugain o bobl amlwg sydd wedi arwyddo llythyr yn galw ar ASau i atal y newidiadau.

Mae’r llythyr yn rhybuddio’r Llywodraeth rhag gwanhau’r ddeddf ar hela.

Mae ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid yn gwrthwynebu newidiadau arfaethedig i’r Ddeddf Hela a fydd yn dod a Chymru a Lloegr yn unol â’r Alban, lle maen nhw’n defnyddio nifer o gwn i hela llwynogod.

Mae hela llwynog traddodiadol gyda chwn yn anghyfreithlon ym Mhrydain, ond yng Nghymru a Lloegr, dim ond dau gi sy’n gallu hela’r llwynog, er mwyn i ffermwyr neu dirfeddianwyr ei saethu, tra yn yr Alban, fe ellir defnyddio nifer o gwn hela.

Pe bai’r Senedd yn pasio’r gwelliant ar y ddeddf wreiddiol, mae’r ymgyrchwyr yn teimlo “y byddai’r ddeddfwriaeth bwysig yma yn troi yn ddiddannedd, gan ganiatáu helfeydd i barhau gyda’r traddodiad creulon hwn.”

Ond mae cefnogwyr hela yn croesawu’r newidiadau gan ddweud y byddai hela’n draddodiadol yn parhau’n anghyfreithlon ac yn ei gwneud yn haws i reoli niferoedd llwynogod.