Nigel Farage, Ed Miliband, a Nick Clegg, ar ol cyhoeddi eu bod yn ymddiswyddo
Mae’n rhaid i’r Blaid Lafur ddewis eu harweinydd newydd o blith y genhedlaeth nesaf o Aelodau Seneddol, yn ôl cyn weinidog yn y cabinet.
Fe fu’n noson drychinebus i’r blaid yn yr Etholiad Cyffredinol gan arwain at ymddiswyddiad Ed Miliband fel arweinydd ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.
Mae’r Arglwydd Hutton wedi awgrymu y dylai’r ffefrynnau i olynu Miliband – Andy Burnham ac Yvette Cooper – gamu o’r neilltu er mwy caniatáu i aelodau ieuengach y blaid gael cyfle i herio’r Ceidwadwyr.
Dywedodd yr Arglwydd Hutton bod y canlyniadau trychinebus wedi bod yn gam yn ôl i’r blaid ac nad oedd awch gan y cyhoedd am “hen fwydlen sosialaidd.”
Democratiaid Rhyddfrydol
Yn y cyfamser mae un o ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol, Greg Mulholland, wedi dweud bod yn rhaid i’r arweinydd nesaf fod yn rhywun a oedd wedi herio Nick Clegg ynglŷn â ffioedd myfyrwyr.
Fe ymddiswyddodd Nick Clegg ddoe ar ol “noson greulon” a welodd y blaid yn dal ei gafael ar wyth sedd yn unig. Fe gollodd aelodau blaenllaw eu seddi, gan gynnwys Vince Cable, Danny Alexander, Ed Davey a David Laws.
Ymhlith y ffefrynnau i olynu Nick Clegg mae cyn lywydd y blaid Tim Farron, a’r gweinidog iechyd yn y Llywodraeth Glymblaid Norman Lamb.
Dywedodd Greg Mulholland: “Roedd y methiant yn 2010 i sicrhau nad oedd yr un AS o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pleidleisio yn erbyn codi ffioedd myfyrwyr yn drychinebus. Nawr, mae angen arweinydd a oedd wedi pleidleisio yn erbyn,” meddai.
UKIP
Mae unig AS Ukip wedi diystyru ymuno a’r ras i fod yn arweinydd nesaf y blaid.
Dywedodd Douglas Carswell, a lwyddodd i gadw ei sedd yn Clacton, na fyddai’n ceisio olynu Nigel Farage, a gyhoeddodd ei ymddiswyddiad ar ol iddo fethu ag ennill sedd yn Ne Thanet.
Dywedodd Nigel Farage ei fod am gymryd hoe dros yr haf ond mae wedi awgrymu y gallai ystyried ceisio am arweinyddiaeth y blaid unwaith eto ym mis Medi.
Y Blaid Werdd
Mae Natalie Bennett wedi mynnu mai hi yw’r person iawn i arwain y Blaid Werdd yn ystod y cyfnod nesaf.
Daeth hi’n drydedd yn Holborn a St Pancras a dim ond un sedd sydd gan y blaid yn San Steffan, ar ôl i Caroline Lucas ddal ei gafael ar sedd Brighton Pavilion.
Dywedodd bod y blaid wedi llwyddo i ennill 1.1 miliwn o bleidleisiau – fe enillodd y Gwyrddion 285,000 yn 2010 – gan “sefydlu ei hun fel plaid genedlaethol.”
Ychwanegodd Natalie Bennett ei bod hi nawr am adeiladu ar lwyddiant y blaid yn yr etholiad cyffredinol ar ôl i’r Gwyrddion ddod yn ail mewn pedair sedd.