Dau arweinydd yng ngyddfau ei gilydd - David Cameron a Nick CLegg
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi gwadu iddo erioed ddweud na fyddai’n ennill digon o etholaethau i ffurfio llywodraeth fwyafrifol.

Roedd un o arglwyddi’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu mai dyma’n union a ddywedodd David Cameron yn breifat i Nick Clegg.

Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol, roedd hynny’n gwbl anwir.

“Mae’n Prif Weinidog wedi ei gwneud hi’n glir yn barhaus nad oes ond angen 23 o seddau arnom i gael mwyafrif, ac mae’n canolbwyntio’n llwyr ar ennill y mwyafrif hwnnw,” meddai.

Er nad oedd Nick Clegg ei hun am wneud unrhyw sylw ar sgyrsiau penodol a gafodd gyda David Cameron, meddai:

“Dw i ddim wedi cyfarfod yr un Ceidwadwr sydd, yn breifat, yn honni eu bod nhw am ennill mwyafrif. Maen nhw’n gwybod yr hyn y mae pawb yn ei wybod ledled y wlad, sef nad ydyn nhw am ennill mwyafrif.”

‘Dewis clir’

Wrth ymgyrchu yn etholaeth ymylol Hastings a Rye, dywedodd David Cameron fod yr etholwyr yn wynebu dewis clir rhwng y Ceidwadwyr a Llafur.

“Ddydd Iau, fel fydd yn rhaid i bobl ddewis – hoffen nhw i mi barhau fel Prif Weinidog neu oes arnyn nhw eisiau Ed Miliband a’r SNP, yr unig ddewis arall sydd ar gael?” meddai.

“Fy neges i yw os ydych chi’n pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol rydych mewn perygl o gael Ed Miliband, os ydych chi’n pleidleisio i Ukip, rydych chi mewn perygl o gael Ed Miliband.

“Mae’n amlwg fod Nick Clegg yn mynd yn fwyfwy despret, oherwydd mae’n gwybod ei fod yn colli sedd ar ôl sedd ledled y wlad.”