Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron wedi croesawu ffigyrau yn dangos fod dros 50,000 o bobol wedi datgan diddordeb mewn prynu tai am bris rhad, dan gynllun gan y Llywodraeth.

Cafodd y gofrestr gan Gymdeithas yr Adeiladwyr Tai, ei harwyddo gan 53,225 bobol yn dangos diddordeb yn y cynllun.

Lansiwyd y polisi gan y Llywodraeth Glymblaid ar ddiwedd y llynedd yn cynnig prynwyr dan 40 oed, gyda chartref newydd, am bris gostyngol o 20%.

Bydd y gostyngiad yn cael ei ariannu, trwy hepgor ffioedd adeiladu er mwyn talu awdurdodau lleol, sy’n gallu bod gymaint a £45,000 y ty.

Mae’r Blaid Geidwadol wedi addo y bydd 200,000 o gartrefi newydd yn cael ei hadeiladu erbyn 2020 os ydynt yn parhau mewn grym, gyda eiddo hyd at £250,000 neu £450,000 yn Llundain yn gymwys.

Hawl i Brynu

Dywedodd y Prif Weinidog eu bod yn barod i barhau gyda chynllun Cymorth i Brynu, gan ddileu blaendaliadau, a chynyddu buddsoddiad mewn tai fforddiadwy.

“Mae’r Ceidwadwyr eisiau mwy o bobl i eiddo eu cartref ei hunain. Mae perchnogaeth tai wrth wraidd ein daliadau gwleidyddol.”

Mae Llywodraeth Cymru ar y llaw arall, wed cyhoeddi ei bod yn dod a’r cynllun Hawl i Brynu i ben a oedd yn galluogi tenantiaid tai cymdeithasol i brynu eu cartref am bris gostyngol o hyd at £16,000, gan ganolbwyntio ar adeiladu rhagor o dai cymdeithasol.

Ers cyfnod Margaret Thatcher yn yr 1980au, mae’r Blaid Geidwadol wedi credu fod angen i bobol fod mewn sefyllfa i brynu eu cartrefi.

Meddai David Cameron; “Yr ydym yn credu fod cael cartref yn rhoi annibynniaeth i bobol a theuluoedd; mae’n helpu pobol i sefyll ar eu traed eu hunain.

“Yr ydym yn helpu pawb sy’n gweithio’n galed ac sy’n berchen ei cartref eu hunain, ac mae hyn yn rhan allweddol o gynllun economaidd tymor hir.”