Richard Owen
Richard Owen sydd yn rhannu’i argraffiadau o’r ymgyrchu dros annibyniaeth yn yr Alban…

Mae pethau mawr yn digwydd yn yr Alban. Treuliais bythefnos yng Nglasgow yn ddiweddar, ac yn ystod yr ail wythnos fe gefais gyfle i ymuno â’r Ymgyrch Ie.

Gyda’r criw yn etholaeth Glasgow Kelvin y bûm yn gweithio, sef ardal yng nghanol y ddinas, ond cefais gyfle i fynd i ardal Govan hefyd, ardal dlotach i’r de o’r Afon Clud.

Mae’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban, ac sydd wedi bod yn digwydd yno ers misoedd lawer, yn wirioneddol ryfeddol. Pobl yn trafod pynciau gwleidyddol yn frwd ac yn ddeallus, dyna sy’n rhyfeddol.

Er mwyn cael unrhyw siawns o lwyddo, fe sylweddolodd pobl yr ymgyrch ‘Ie’ fod yn rhaid iddynt danio pobl a chael ymgyrch fywiog, eang ar lawr gwlad drwy’r Alban.

Roeddynt yn gwybod y gallai’r Nacawyr ddibynnu ar gefnogaeth (neu niwtraliaeth) y wasg a’r cyfryngau torfol, felly roedd yn rhaid creu momentwm o blaid newid ar y stryd ac ar y  cyfryngau cymdeithasol. Ac yn sicr maen nhw wedi llwyddo i wneud hynny.

Rali fawr

Wrth gerdded o gwmpas y ddinas, roedd sticeri a phosteri Ie yn llawer mwy amlwg na’r rhai Na. Y rhai Na amlycaf a welais oedd y rhai ar swyddfa undeb y GMB, ond fel arall roedden nhw’n brin.

Ond roedd posteri Ie a’r faner Albanaidd gyda ‘Yes’ wedi’i ysgrifennu arni i’w gweld yn aml iawn. Yn yr un modd, mae’r ymgyrch Ie yn cynnal llawer iawn mwy o ddigwyddiadau ar y stryd nag a wna eu gwrthwynebwyr.

Ar Sadwrn olaf Awst, daeth tyrfa fawr, liwgar at ei gilydd ganol dydd ym mhen uchaf Stryd Buchanan – digon o bosteri a baneri, ac Affricanwr (neu Albanwr Affricanaidd efallai) yn curo drymiau gydag afiaith i’w ryfeddu.

Ychydig eiriau gan y trefnydd, digon o gyfle i dynnu lluniau i’w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yna’r dyrfa yn rhannu’n grwpiau i gynnal stondinau stryd mewn gwahanol fannau yng nghanol y ddinas.

Ymgyrch trawsbleidiol

Y mudiad a drefnodd y digwyddiad hwn oedd y Radical Independence Campaign (RIC). Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cenedlaetholwyr aden chwith o’r SNP, Llafur dros Annibyniaeth, y Blaid Werdd, pleidiau sosialaidd bach ac unigolion nad ydynt yn perthyn i unrhyw blaid ond sy’n credu’n gryf mewn annibyniaeth.

Mae hon yn un o nodweddion pwysicaf yr ymgyrch Ie, sef ei fod yn fudiad sy’n llawer ehangach na’r SNP.

Wrth gwrs, mae’r Nacawyr, yn arbennig y Blaid Lafur, am uniaethu’r ymgyrch gyda’r SNP ac Alex Salmond, ond un o gryfderau mawr yr ymgyrch Ie yw ei bod wedi llwyddo i ddenu cefnogwyr a gweithwyr o gylch eang iawn o bobl.

Un noson bûm yn siarad â Tom, sosialydd (ac yn ddigon sicr ddim yn gefnogwr i’r SNP). Roedd ef a’i gydweithwyr yn RIC wrthi hynny fedren nhw yn cofrestru pobl i bleidleisio yn ardal Easterhouse, ardal dlawd a difreintiedig iawn.

Mae yna filoedd ar filoedd o bobl mewn ardaloedd o’r fath yng Nglasgow a llefydd eraill nad ydynt wedi pleidleisio mewn unrhyw etholiad ers blynyddoedd, ac mae RIC wedi llwyddo i gofrestru llaweroedd ohonynt ar gyfer y refferendwm.

Ac rwy’n siŵr y bydd gweithwyr RIC allan ar y dydd yn sicrhau fod y pleidleiswyr ‘newydd’ hyn yn pleidleisio.

Pleidlais Lafur yn allweddol

Mae’r bleidlais Lafur draddodiadol yn allweddol i’r canlyniad. Mae tystiolaeth polau piniwn yn dangos yn glir fod y rhan helaethaf o bleidleiswyr yr SNP (tua 85% ohonynt) yn cefnogi annibyniaeth, a mwyafrif tebyg o bleidleiswyr y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i bleidleisio yn erbyn.

Felly mae llawer iawn yn dibynnu ar y pleidleiswyr Llafur, gan gynnwys y ‘cefnogwyr traddodiadol’ hynny nad ydynt wedi troi allan i gefnogi unrhyw un ers blynyddoedd.

Mewn gwirionedd, mae hyn yn debyg i beth ddigwyddodd yng Nghymru yn 1997 – sut oedd y bleidlais Lafur yn rhannu oedd yn allweddol y tro hwnnw hefyd.

Un ffordd syml (gor-syml, rwy’n siŵr) o ddisgrifio beth sydd wedi digwydd yn yr Alban yn y 35 mlynedd diwethaf fyddai dweud fod agweddau a pholisïau llywodraethau Thatcher wedi sigo’r Blaid Geidwadol yno, a bod Llafur Newydd Blair (a Brown, y Sgotyn, cofier) wedi torri calon llawer o gefnogwyr Llafur.

Bûm yn canfasio un noson gyda Norman, dyn tân tua 50 oed oedd yn enedigol o Glasgow, ond ei rieni yn dod o’r ynysoedd. Gofynnais iddo a oedd yn aelod o’r SNP – ‘Na, dydw i ddim yn genedlaetholwr’ oedd ei ateb pendant.

Roedd wedi arfer bod yn gefnogol i Lafur (er yn credu mewn hunanlywodraeth i’r Alban erioed). Ond roedd Rhyfel Irac ac agwedd Llafur Newydd at yr undebau llafur wedi bod yn ormod iddo, ac nid yw wedi bod yn aelod o unrhyw blaid ers tua deng mlynedd bellach. Mae’n gweithio gyda’r ymgyrch Ie ers misoedd lawer.

Mae Norman, a llawer un tebyg iddo, wedi cael llond bol ar yr Alban yn cael ei rheoli gan ryw griw bychan yn ne ddwyrain Lloegr sy’n rheoli’r wlad er mwyn buddiannau’r sector ariannol yn ninas Llundain. A dagrau pethau yw bod arweinwyr y Blaid Lafur wedi ildio i’r agenda honno i’r fath raddau.

Bron pawb wedi cofrestru

Fynnwn i ddim bychanu lle’r SNP yn yr ymgyrch, wrth gwrs. Wedi’r cyfan, Llywodraeth yr Alban, a reolir gan yr SNP, sy’n cynnig polisi annibyniaeth, ac mae trefniadaeth hynod effeithiol yr SNP ynghyd â’i phrofiad maith o ymladd etholiadau yn graidd cadarn i’r ymgyrch.

Ond fyddai ganddyn nhw ddim siawns o ennill heb y mudiad eang a bywiog y llwyddwyd i’w greu.

Beth a ddigwydd? A fydd momentwm yr Ie yn parhau tan ddiwrnod y cyfrif, ynteu a fydd y dosbarth llywodraethol Prydeinig (sydd wedi deffro o’r diwedd i’r perygl) yn llwyddo i rwystro’r mur rhag cael ei fylchu?

Does neb yn gwybod gan fod yr ornest yn ymddangos yn un agos iawn ar hyn o bryd.

Un ffaith i orffen – mae 97% o bobl yr Alban wedi cofrestru i bleidleisio, y mwyaf erioed. Bydd dydd Iau, 18 Medi yn ddiwrnod prysur iawn yn yr Alban!