Guto Davies
Guto Davies sydd yn esbonio’i ymgyrch i wrthwynebu unrhyw newid i bolisi presennol Llywodraeth Cymru…

Rwy’n cynnal yr ymgyrch yma ynglŷn â mater addysgol fydd, yn fy marn i, yn dominyddu’r ddadl addysg bellach yn y dyfodol agos. Mae’n fater a fydd o ddiddordeb mawr i fyfyrwyr a phobl ifanc.

Ers datganoli, mae myfyrwyr yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi cael y cyfle i fynychu’r brifysgol o’u dewis heb orfod poeni am sut y maent yn mynd i ariannu eu hastudiaethau.

I lawer, mae hyn yn gyfle na allai eu rhieni a theuluoedd eu fforddio ac rwy’n siŵr, yn union fel fi, maent yn ddiolchgar am y siawns yma.

O ganlyniad, mae myfyrwyr yn gwybod eu bod yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru pan ddaw i ffioedd dysgu, ac mae hyn yn arwain at fwy o hyder pan ddaw i ymgeisio am y prifysgolion gorau ar draws y DU.

Mae hyn mewn cyferbyniad i’r hyn sydd wedi digwydd dros y ffin yn Lloegr ac mewn llawer o wledydd eraill ar draws y byd. Mae myfyrwyr yn Lloegr wedi wynebu codiad yn eu ffioedd dysgu i £9,000, gan adael llawer gyda’r posibilrwydd o beidio mynychu prifysgol a chynyddu siawns o gyflogaeth.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, yn talu rhan o ffioedd dysgu myfyrwyr lle bynnag y maent yn penderfynu astudio yn y DU.

Ar hyn o bryd, boed chi’n astudio mewn prifysgol yng Nghymru neu yn rhywle arall yn y DU, dim ond £3,685 sydd yn rhaid i chi dalu bob blwyddyn mewn ffioedd dysgu – Llywodraeth Cymru sydd yn talu’r gweddill.

Ond mae rhai gwleidyddion yn credu na ddylen nhw roi’r cymorth ariannol hwn i bob myfyriwr, ac y dylai’r rheiny sydd yn astudio y tu allan i Gymru orfod talu’r £9,000 llawn eu hunain.

Yn fy marn i mae’r rheolau presennol yn sicrhau nad yw unrhyw fyfyriwr yn cael eu cyfyngu rhag mynychu’r prifysgolion gorau.

Rwy’n falch bod llawer o ACau ac ASau wedi bod yn cyfarfod gweithwyr proffesiynol dros y blynyddoedd diwethaf i weld beth y gallwn ei wneud i gael mwy o bobl ifanc i wneud cais am y prifysgolion gorau megis Rhydychen, Caergrawnt ac LSE, rwy’n gwybod yn union pa mor bwysig yw hi i gynyddu hyder pobl ifanc yn y maes.

Ymgyrch i wrthwynebu

Fodd bynnag, rwyf fi a llawer o bobl ifanc eraill o’r farn y gallai’r gobaith a chyfle a roddir fod mewn perygl.

Gallai hyn ddigwydd pe bai Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu cynlluniau gan bleidiau gwleidyddol eraill i roi’r gorau i’r cymorth i fyfyrwyr os ydynt yn dewis astudio yn rhywle arall heblaw am yma yng Nghymru.

Yn ddiweddar dechreuais ymgyrch yn gofyn i bobl ifanc am eu barn ar y mater yma, ac mae bellach wedi denu sylw da iawn yn y wasg.

Rwy’n gobeithio, drwy weithio ochr yn ochr â phobl ifanc ledled Cymru a grwpiau megis yr Urdd a Senedd Ieuenctid Cymru gan gynnwys Undebau Myfyrwyr yn y prifysgolion, y gallaf gynhyrchu adroddiad sy’n gadarn, yn effeithiol ac yn adlewyrchu barn pobl ifanc yng Nghymru.

Mae’n hanfodol fod pobl ifanc yn cael y cyfle i ddweud eu dweud ar y mater yma. Pe bai’r newid yma yn digwydd, byddai miloedd o bobl ifanc yn cael eu heffeithio. Yn bersonol, byddwn yn erbyn newid o’r fath.

Rwy’n cytuno ei bod yn bwysig i bobl ifanc gael yr hyder i wneud cais am y prifysgolion gorau, ond yn teimlo y byddem yn mynd yn groes i’w dymuniadau os ydym yn ei gwneud yn amhosib yn ariannol iddynt fynychu. Byddai’n golygu mai dim ond y teuluoedd cyfoethocaf  fyddai’n anfon eu plant i’r prifysgolion hyn.

Rwy’n deall bod angen buddsoddi yn ein prifysgolion yma yng Nghymru, ond ni ddylai’r mater yma gael ei wneud yn un ’naill neu’r llall’.

Dylem fod yn edrych i barhau â’r cymorth ariannol, tra hefyd yn buddsoddi yn ein prifysgolion yng Nghymru. Gallwn wir gael y gorau o’r ddau.

Ni ddylem orfodi ein pobl ifanc i fynd i brifysgol yng Nghymru oherwydd amgylchiadau ariannol, ond  eu gwneud yn awyddus i astudio yno oherwydd ei safonau uchel a rhagorol.

Yn y pendraw, rwy’n gobeithio cyfarfod gyda nifer o wleidyddion er mwyn sicrhau pe bai pleidlais, y bydden nhw’n pleidleisio yn erbyn y newid.

Rwyf hefyd yn gobeithio cael cyfarfod gyda’r Gweinidog Addysg yn y dyfodol er mwyn trafod ffyrdd o sicrhau buddsoddiad yn ein prifysgolion wrth roi cymorth ariannol i fyfyrwyr.

Yn ogystal â hyn, fe fyddai’n gyfle arbennig ar ôl gorffen yr adroddiad i gynnal digwyddiad ar y mater yn y Senedd.

Bydd Guto Davies yn dechrau cwrs yn y Brifysgol Agored ym mis Tachwedd. Mae hefyd yn Swyddog Ieuenctid a’r Iaith Gymraeg ac yn is-gadeirydd i Blaid Lafur Ynys Môn.

I weld y diweddaraf am ei ymgyrch neu i gysylltu â Guto ewch i’w dudalen Twitter, @guto_davies