George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi heddiw na fydd yn cytuno i uniad ariannol gydag Alban annibynnol gan ddweud na fyddai cytundeb o’r fath “yn gweithio” ac “na fydd yn digwydd.”

Daeth y neges glir gan y Canghellor wrth iddo ymweld â Chaeredin. Mae Llywodraeth yr Alban wedi amlinellu cynlluniau i greu “parth sterling” gyda gweddill y DU os yw’r trigolion yn pleidleisio o blaid annibyniaeth mewn refferendwm.

Dywedodd Osborne: “Mae’r SNP wedi dweud os ydy’r Alban yn dod yn annibynnol yna bydd uniad ariannol a bydd yr Alban yn rhannu’r bunt.

“Mae’n rhaid i bobl wybod nad ydy hynny’n mynd i ddigwydd.

“Oherwydd nid yw rhannu’r bunt er budd pobl yn yr Alban na gweddill y DU.

“Mae’r dystiolaeth yn dangos na fyddai’n gweithio, ac fe fyddai’n peryglu swyddi ac arian. Ni fyddai’n darparu sicrwydd economaidd i’r Alban na gweddill y DU.”