Vince Cable
Fe fyddai caniatáu i’r Alban gadw’r bunt sterling wedi annibyniaeth yn “anghynaladwy” yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable.

Dywedodd yr AS ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi’n debygol y bydd Yr Alban yn cael arian eu hunain, er bod Llywodraeth Yr Alban yn mynnu fod posib rhannu’r bunt sterling petai drigolion y wlad yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Roedd hefyd yn cwestiynu pa mor hawdd y byddai i’r Alban ymuno hefo’r Undeb Ewropeaidd.

“Rydym ar ddeall y byddai hi’n anodd iawn i’r Alban fod yn annibynnol – yn gyfreithiol ac yn nhermau gwleidyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd.”

Posib rhannu

Mae rheolwr Banc Lloegr, Mark Carney, wedi dweud y gellir rhannu’r bunt – gyda’r sylfaeni cywir fel cysylltiadau bancio cryf. Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond hefyd yn cytuno.

Dywed Papur Gwyn Llywodraeth yr Alban ar annibyniaeth fod “rhannu’r bunt am fod o fudd economaidd i’r Alban ac i weddill Prydain, fel partneriaid masnach.”

Ond dywedodd Vince Cable fod y rhesymeg y tu ôl i ddadleuon Mark Carney a phobol eraill yn llawn “problemau”.

“Fe fyddai’n gosod rhwystr wrth fasnachu yn y wlad, ac fe fyddai’n anodd rheoli’r gyfradd cyfnewid,” meddai.