Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddwyn ffrwydron masnachol wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau Heddlu’r Gogledd barhau heddiw.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n parhau i ymchwilio ar ôl dod o hyd i ddeunydd ffrwydrol mewn tŷ yn Ninbych dros y penwythnos.

Fe ddaeth heddlu o hyd i’r offer ar ôl mynd i mewn i’r tŷ yn Ninbych tua phedwar o’r gloch brynhawn Sadwrn.

Dydyn nhw ddim yn credu bod gan neb arall ran yn y drosedd honedig na bod unrhyw gysylltiad terfysgol.