Mae Dŵr Cymru yn atgoffa cwsmeriaid i warchod pibelli rhag yr oerfel.

Gyda’r tywydd oer mae tuedd i bibelli dŵr rewi a rhwygo, gan adael cartrefi heb ddŵr ac achosi llifogydd.

Gellir osgoi problemau fel hyn drwy ‘lapio’ pibellau gyda deunydd inswleiddio neu becynnau lapio sydd ar gael am bris rhesymol.

Byddai hyn yn gallu atal y pibellau cryfaf rhag rhwygo o ganlyniad i chwyddiant yn y dŵr wrth iddo rewi, meddai Dŵr Cymru.

 “Tynnu costau diangen”

Yn ôl Peter Perry, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Cymru: “Gall pibellau sy’n rhewi ac yn rhwygo achosi anghyfleustra a thynnu costau diangen” ond “gallwch osgoi hynny’n rhwydd trwy dreulio ychydig funudau’n amddiffyn eich pibellau.”

“Bydd ein timau’n gweithio 24/7 i gadw pethau’n llifo, ond mae angen cymorth ein cwsmeriaid arnom i wneud hyn hefyd, trwy sicrhau bod eu cartrefi a’u busnesau’n barod am y gaeaf.”

“Rhowch funud o’ch amser i inswleiddio unrhyw bibellau neu dapiau sydd y tu allan, neu dapiau sydd mewn lle oer fel llofft neu garej.

“Trwsiwch unrhyw dapiau sy’n diferu, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ymhle mae’ch stop tap, a chadwch rif plymwr cymwys wrth law rhag ofn bod y gwaethaf yn digwydd.”

Mae rhagor o gynghorion a fideos sy’n dangos sut i fynd ati ar – dwrcymru.com/tywyddoer