Llun o'r troseddwr honedig yng ngorsaf Y Rhyl
Mae heddlu trafnidiaeth wedi cyhoeddi lluniau deg o bobol sydd yn cael eu hamau o droseddau ar reilffyrdd yng Nghymru.

Mae’r troseddau hynny’n amrywio o ddwyn beiciau a ffonau symudol i achosi difrod a defnyddio lifft fel tŷ bach.

Mae’r lluniau i gyd o gamerâu teledu cylch cyfyng ac mae’r heddlu’n gofyn am wybodaeth gan bobol sy’n eu hadnabod.

Mewn un achos, roedd carthion wedi eu cael mewn lifft yng ngorsaf Y Rhyl yng ngogledd Cymru ac roedd un dyn ifanc wedi cael ei weld yn mynd i mewn ac allan ohono tua’r amser hwnnw.