Fe fydd dyn 73 oed yn ymddangos o flaen ynadon Prestatyn yfory ar gyhuddiad o lofruddio’i wraig a oedd yn dioddef o glefyd Alzheimer.

Cafodd y pensiynwr Keith Rumbold ei arestio ddydd Iau pan gafodd yr heddlu hyd i gorff ei wraig Shirley yn eu cartref yn The Meadows, Prestatyn.

Roedd parafeddygon wedi galw ar yr heddlu i fyngalo’r pensiynwyr yn y dref lan môr yn Sir Ddinbych.

Mae teulu’r ddau wedi cyhoeddi datganiad yn dweud: “Roedd Shirley wedi dioddef o glefyd Alzheimer ers sawl blwyddyn a byddai’r teulu’n gwerthfawrogi preifatrwydd ar yr adeg trist ac anodd yma.

Yn ôl adroddiadau answyddogol, mae archwiliad post-mortem wedi datgelu mai achos mwyaf tebygol y farwolaeth oedd i Mrs Rumbold gael ei thagu..