Mae Seren yn rhoi cymorth i oedolion sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig pan yn blant (Llun: PA)
Mae’r unig elusen yng ngorllewin Cymru sy’n rhoi cymorth i oedolion sydd wedi dioddef cam-drin domestig pan yn blant, yn ofni y bydd yn rhaid iddyn nhw ddirwyn eu gwasanaeth i ben.

Yn ôl Kay Anstee, cydlynydd elusen Seren, mae diffyg sicrwydd ariannol yn golygu nad ydyn nhw’n gwybod a fydd y gwasanaeth yn medru parhau ar ôl mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mi gafodd elusen Seren ei sefydlu yn 1997 ac mae’n darparu gwasanaeth cwnsela i bobol sydd wedi’u cam-drin yn rhywiol fel plant, gan gynnal sesiynau yn Aberystwyth, Aberteifi, Caerfyrddin a Hwlffordd.

‘Anodd cynllunio ymlaen’

“Ar hyn o bryd does gennym ni ddim o’r cyllid i redeg  y gwasanaeth ar ôl mis Mawrth y flwyddyn nesaf,” meddai Kay Anstee wrth golwg360.

“Mae Seren wedi bod yn y safle hwn o’r blaen, ond mae’n anodd cynllunio ymlaen,” meddai.

Eglurodd eu bod am ganolbwyntio’n awr ar ddarparu sesiynau cwnsela i’r bobol sydd ar eu rhestr aros, ac nad oes modd cadarnhau lle i bobol yn y flwyddyn newydd.

Mae’n dweud fod y cwnselwyr yn gweithio’n wirfoddol ond bod angen cyllid i dalu costau teithio, y gwaith goruchwylio a thâl llogi ystafelloedd.

‘Ynysu’

“Mae’n gwaith ni’n gymorth hanfodol i bobol oherwydd ni yw’r unig wasanaeth sy’n darparu sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb yng ngorllewin Cymru,” meddai wedyn.  

“Mae natur wledig gorllewin Cymru yn golygu fod llawer o bobol wedi’u hynysu yn ddaearyddol ta beth, ond maen nhw hefyd wedi’u hynysu achos y trawma maen nhw wedi’i ddioddef.”