Mae dyn 54 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Ford Focus a beic yn Llandaf yng Nghaerdydd.
Cafodd y seiclwr, oedd yn byw yn yr ardal, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw.
Mae’r heddlu’n rhoi cefnogaeth i’w deulu, ac maen nhw wedi apelio am wybodaeth.
Roedd Ffordd Pencisely ynghau am bedair awr yn dilyn y gwrthdrawiad, ac mae ymchwiliad ar y gweill.