National Action - aelodau'n cynnal protest ger cerflun Nelson Mandela (llun parth cyhoeddus)
Mae’r ddau ddyn o Gymru a oedd wedi eu harestio ar amheuaeth o fod yn rhan o fudiad asgell dde anghyfreithlon wedi cael eu rhyddhau.

Ond mae’r ymholiadau iddyn nhw a thri dyn arall o Loegr yn parhau, yn ôl heddlu gwrth-frawychaeth ac mae chwech dyn arall yn aros yn y ddalfa.

Roedd y ddau ddyn, 28 a 23 oed o Abertawe, wedi cael eu harestio ddyd Mercher ar amheuaeth o fod yn aelodau o fudiad o’r enw National Action, sydd wedi ei wahardd ers mis Rhagfyr y llynedd.

Roedd Uned Eithafiaeth a Gwrth-frawychaeth Cymru yn rhan o gyrch gyda tri llu arall.

Y cefndir

Mudiad sy’n anelu at bobol ifanc yw National Action ac mae wedi cael ei alw yn fersiwn mwy eithafol o’r British National Party.

Yn 2014, fe ddatgelodd papur newydd fod llanc 19 oed o Abertawe yn aelod amlwg o’r mudiad.