Bydd y tri yn mynd gerbron Llys yr Old Bailey ar 21 Medi ar gyfer gwrandawiad (Llun: Wicipedia)
Mae tri dyn – gan gynnwys un o Bowys – wedi ymddangos gerbron Llys yr Ynadon Westminster heddiw wedi’u cyhuddo o droseddau brawychol.

Mae’r tri wedi’u cyhuddo o fod yn aelodau o’r grŵp asgell dde eithafol sydd wedi’i wahardd ym Mhrydain, sef National Action.

Yn eu plith mae’r milwr Mikko Vehvilainen oedd wedi’i leoli yng ngwersyll Pontsenni, Aberhonddu.

Mae’r gŵr 32 oed wedi’i gyhuddo o fod â dogfen yn ei feddiant sy’n cynnwys gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol at frawychiaeth ynghyd â chyhoeddi deunydd ar wefan sy’n “fygythiol, ddilornus neu’n sarhaus”.

“Negeseuon hiliol”

Mae Alexander Deakin, 22 oed, o Birmingham a Mark Barrett, 24 oed, oedd wedi’i leoli yng Nghyprus hefyd wedi’u cyhuddo o fod yn aelodau o’r mudiad National Action.

Honnir bod y tri wedi bod yn rhan o grŵp ar-lein lle’r oedd negeseuon hiliol yn cael eu cyfnewid.

Wrth ymddangos yn y llys heddiw, roedd Mark Barrett wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad ond nid oedd Alexander Deakin na Mikko Vehvilainen wedi cyflwyno ple.

Cafodd Alexander Deakin a Mikko Vehvilainen eu cadw yn y ddalfa. Fe fydd gwrandawiad i drafod mechnïaeth Mark Barrett yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw.

Mae disgwyl i’r tri ymddangos yn yr Old Bailey ar 21 Medi ar gyfer gwrandawiad cychwynnol.

Cafodd y tri eu harestio’r wythnos diwethaf gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae’r mudiad National Action wedi’i wahardd dan gyfreithiau brawychiaeth Prydain ers mis Rhagfyr 2016 ac mae’n cael ei ddisgrifio gan y Swyddfa Gartref yn “eithafol, hiliol, gwrth-semitaidd a homoffobig.”