Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dyn 75 oed o Gil-y-coed.

Dydy William Upda ddim wedi cael ei weld ers 1.30 brynhawn dydd Gwener.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn o gorffolaeth denau a chanddo wallt llwyd at ei goler.

Mae’n gwisgo sbectol, a phan aeth ar goll, roedd e’n gwisgo côt las, trowsus llwyd/gwyrdd a chrys polo llwyd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.