Mae merch fach blwydd oed wedi cael ei lladd mewn digwyddiad gyda char ym Merthyr Tudful.

Cafodd Heddlu’r De eu galw i’r digwyddiad yn Heolgerrig toc cyn 1.39yp ddydd Sul, 6 Awst.

Cafodd y ferch ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Tywysog Charles, ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae’n debyg nad oedd unrhyw un yn y cerbyd ar y pryd ac mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i geisio darganfod sut y cafodd y ferch anafiadau angheuol.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.